Llwyddodd Caerdydd i achub pwynt trwy adennill tir mewn modd dramatig a sicrhau canlyniad o 3-3 oddi cartref yn erbyn Stoke.

Roedd yr Adar Glas 3-0 i lawr yn eu gêm gyntaf o dan ofal eu rheolwr dros dro, Steve Morison, ond daeth Rubin Colwill, Mark Harris a Kieffer Moore i’r adwy i achub y dydd.

Daeth tair gôl Caerdydd o fewn pum munud i’w gilydd yn yr ail hanner.

Ergyd o bell gan Rubin Colwill a ddechreuodd y cyffro, gyda Kieffer Moore wedyn yn cipio’r bêl i’w gyrru i Mark Harris i wneud y gêm yn 3-2. Kieffer Moore ei hun wedyn – er iddo fethu â manteisio ar gyfle gwych yn yr hanner cyntaf – a sgoriodd y gôl dyngedfennol wrth lithro’r bêl i rwyd wag.

Ar ôl sgorio dwy gôl yn yr hanner cyntaf, cododd Stoke eu mantais i 3-0 ar ôl 33 eiliad o’r ail hanner cyn i Gaerdydd gychwyn taro’n ôl.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd wedi ennill eu pwynt cyntaf ers mis Medi ar ôl colli wyth gêm ar ôl ei gilydd.