Mae Abertawe wedi ennill eu pedwaredd gêm gartref yn olynol wrth guro Peterborough 3-0 y pnawn yma.

Roedd tair gôl yn yr hanner cyntaf gan Jake Bidwell, Joel Piroe a Olivier Ntcham yn ddigon i symud yr Elyrch i’r 13eg safle yn nhabl Pencampwriaeth Sky Bet.

Roedd perfformiad Abertawe yn rhagorol gan ddangos rheolaeth lwyr drwy gydol y gêm, a doedd Peterborough ddim yn gallu dygymod â’u cyflymder na’u cryfder.

Sgoriodd yr Elyrch eu gôl gyntaf ar ôl 77 eiliad, gan ddyblu eu mantais yn y 14eg munud, wrth i ergyd bwerus Piroe o bellter gyrraedd cefn y rhwyd a sgorio’i nawfed gôl y tymor hwn.

Daliodd y tim cartref eu tir gydag arbediad gwych gan y golwr Ben Hamer yn y 28fed munud, a buan y gwnaethon nhw ailgychwyn ymosod. Cododd eu mantais i 3-0 ychydig cyn hanner amser wrth i ergyd isel gan Ntcham drechu David Cornell, golwr Peterborough yn y 46ed munud.

Cadwodd Abertawe at yr un safon o chwarae yn yr ail hanner, a daeth yr eilydd ergydiwr Michael Obafemi yn agos ddwywaith at ymestyn mantais yr Elyrch.