Mae’r gêm heno’n gyfle gwych i greu hanes i Gymru yn erbyn Seland Newydd, yn ôl y capten Alun Wyn Jones.
Mae disgwyl torf o dros 70,000 yn stadiwm y Principality heno i weld Cymru’n herio’r Crysau Duon.
Y tro diwethaf i Gymru eu curo oedd 68 mlynedd yn ôl, ac mae 25 o fuddugoliaethau Seland Newydd wedi bod yn rhai o 10 pwynt o leiaf.
“Dw i’n sylweddoli beth yw’r gorffennol ac all neb newid hynny – ond mae’n gyfle i greu hanes,” meddai Alun Wyn Jones, a fydd yn ennill ei 149fed cap dros Gymru heno gan dorri record byd wrth wneud hynny.
“Ni fydd yn hawdd, ac mae’n debyg y bydd ar Seland Newydd eisiau parhau â’u hanes ar eu hochr nhw.
“Nid dim ond tîm fydd yn ein hwynebu ond gwaddol o safon uchel o chwaraewyr a gemau. All eu record ddim para am byth, ond mae arnom angen perfformiad.
“Wn i ddim ai arnom ni neu ar Seland Newydd mae’r pwysau heno – mater o farn yw hynny.
“Mae angen inni ganolbwyntio ar y rygbi, a dw i’n meddwl fod hynny’n dod yn ôl i’r neges a gawsom gan Wayne Pivac.”
Chwarae o flaen torf
Un ffactor a fydd o blaid Cymru fydd y dorf – y tro cyntaf i Gymru chwarae o flaen torf gartref ers gêm Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.
“Fel carfan, rydym yn ymhyfrydu yn y cyfle i brofi’r hyn rydym wedi ei golli ers amser hir,” meddai Alun Wyn Jones.
“Mae cael y cefnogwyr yn ôl yn rhoi awyrgylch o achlysur mawr inni. Rydym yn disgwyl digon o swn, ac yn ceisio paratoi y gorau y gallwn.”
Yn ôl canolwr Cymru, Johnny Williams, gall y degawdau o golledion a siomedigaethau hefyd fod yn symbyliad ychwanegol yn erbyn y Crysau Duon.
“Os ydych chi’n meddwl am y peth, fe allen ni fyd y grwp cyntaf i fynd a’u curo nhw ers bron i 70 mlynedd,” meddai.
“Mae’r hyn y byddai hynny’n ei wneud i’r wlad ar ôl llawer o adegau tywyll yn ddiweddar, yr hyn y byddai’n ei wneud i’r genedl yn arferthol, ac mae’n symbyliad o ddifrif i gipio’r fuddugoliaeth.
“Byddai’n rhyfeddol gallu gwneud hynny.”
Hon fydd y bedwaredd gêm brawf i Johnny Williams, ond y gyntaf ers gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwethaf ar ôl iddo ddioddef anaf i’w ysgwydd.