Mae George a Becky North wedi cyhoeddi genedigaeth eu hail blentyn.

Fe gafodd y cwpl fachgen o’r enw Tomi, ddydd Mawrth diwethaf (26 Hydref).

Rhannodd chwaraewr rhyngwladol Cymru a’r Gweilch George North y newyddion ar gyfryngau cymdeithasol heddiw (ddydd Gwener, Hydref 29), gyda’r neges: “Tomi North. Croeso i’r tîm.”

Cafodd George North ei fagu ar Ynys Môn ac fe wnaeth fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern cyn symud i Goleg Llanymddyfri.

Fe wnaeth Becky North hefyd gadarnhau’r enedigaeth ar Instagram, gan ddweud bod “ei chalon yn ffrwydro gyda chariad i’w bechgyn.”

Mewn ymateb i’r post hwnnw, fe wnaeth nifer eu llongyfarch, yn cynnwys tîm y Gweilch, Jessica Ennis-Hill, a Rhys Webb.

Fe briododd y chwaraewr rygbi a’r seiclwr o Gymru ym mis Mehefin 2019.

Ar 5 Mai 2020, fe wnaeth y ddau gyhoeddi genedigaeth eu mab cyntaf, Jac.

Mae George North, sydd â 101 cap a 44 cais i Gymru, yn absennol o gemau’r Hydref gydag anaf hirdymor i’w ben-glin.