Bydd pob un o gêmau rygbi Rhyngwladol Menywod Cymru yn fyw ar y teledu yr hydref hwn.

Fe fyddan nhw i’w gweld am ddim i bawb sy’n talu eu trwydded teledu wedi i BBC Cymru ac S4C wedi gyhoeddi cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.

Daw’r cyhoeddiad wedi i URC gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Amazon i ddangos gêmau dynion Cymru sy’n golygu bydd yn rhaid i gefnogwyr dalu yn ychwanegol.

Ond bydd gêmau’r dynion yn cael eu dangos ar S4C awr wedi’r chwiban olaf.

Bydd tair gêm y menywod yn cael eu cyflwyno ar y teledu gan Catrin Heledd a bydd sylw hefyd ar Radio Wales a Radio Cymru.

Sylwebaeth

Bydd gan Radio Cymru hefyd sylwebaeth fyw lawn o holl Gêmau Rhyngwladol yr Hydref tîm dynion Cymru, gan ddechrau gyda Chymru v Seland Newydd yfory (dydd Sadwrn 30 Hydref).

Bydd tîm menywod Cymru’n cychwyn Gêmau’r Hydref ar 7 Tachwedd yn fyw o Barc yr Arfau Caerdydd wrth i dîm capten Siwan Lillicrap fynd benben â Siapan. Bydd y gêm honno i’w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi, am 4.45yh ar S4C, gyda sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael.

Nesaf, bydd Cymru’n wynebu De Affrica ar 13 Tachwedd gyda’r ddau wrthwynebydd yn cystadlu â Chymru am le yn 10 uchaf rygbi menywod y byd.

Bydd y trydedd gêm, a gêm olaf Cymru yn y gyfres, ar 21 Tachwedd, yn erbyn Canada, sydd ar hyn o bryd yn drydydd yn y byd.

Profiadol

Daw’r newyddion ar adeg cadarnhaol i’r tîm gyda’r cyhoeddiad diweddar bod y tîm hyfforddi profiadol Ioan Cunningham, Geraint Lewis a Richard Whiffin wedi’u cadarnhau hyd at, ac yn cynnwys, Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

Meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: “Rydw i mor falch ein bod ni wedi gallu cyhoeddi’r cytundeb newydd hwn gyda’r WRU. Mae BBC Cymru wedi ymrwymo i ddod â chwaraeon menywod o’r safon uchaf i’r gynulleidfa ac mae’r cytundeb hwn yn caniatáu i gefnogwyr ddilyn taith y tîm trwy gydol y twrnamaint. Dwi methu aros i weld yr ymgyrch yn cychwyn. ”

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Fel cefnogwyr o bob lefel o rygbi yng Nghymru, ry’n ni’n edrych ymlaen i weld menywod Cymru yn cychwyn ymgyrch yr Hydref yn fyw ar S4C. Pob lwc i’r menywod yn y tair gêm, byddwn ni gyda chi yr holl ffordd.”

Gêmau:

• Dydd Sul 7 Tachwedd: Cymru v Japan, 5pm, S4C

• Dydd Sadwrn 13 Tachwedd: Cymru v De Affrica, 12.15pm, BBC Two Wales

• Dydd Sul 21 Tachwedd: Cymru v Canada, 5pm, BBC Two Wales