Mae tensiynau wedi codi mewn talaith yng ngogledd India ar ôl cyfres o ymosodiadau yn erbyn Mwslemiaid.
Mae’n debyg bod yr ymosodiadau hyn yn nhalaith Tripura yn ddial am y trais yn erbyn Hindwiaid ym Mangladesh yn gynharach y mis hwn.
Fe wnaeth yr awdurdodau leoli swyddogion yr heddlu a milwyr er mwyn plismona gwaharddiad ar grwpiau o fwy na phump o bobol mewn llefydd lle’r oedd ymosodiadau wedi digwydd.
Dywedodd yr heddlu bod o leiaf un mosg, sawl siop a thai sy’n eiddo i Fwslemiaid wedi cael eu difrodi ers dydd Mawrth, ond does dim un farwolaeth wedi ei chofnodi.
Fe ychwanegon nhw fod rhai yn “benderfynol o styrbio heddwch a chytgord cymunedol” yn y dalaith.
‘Wnaethon ni ddim ymosod ar neb’
Roedd rhai arweinwyr Mwslimaidd yn honni bod grwpiau o Hindwiaid wedi ymosod arnyn nhw yn dilyn protest ddydd Mawrth, a gafodd ei drefnu gan y grŵp cenedlaetholgar Hindŵaidd, Vishwa Hindu Parishad (VHP).
Fe wnaeth llefarydd cenedlaethol y VHP, Vinod Bansal, wadu fod gan y grŵp ran yn y trais.
“Wnaethon ni ddim ymosod ar neb,” meddai.
“Roeddem yn protestio’n heddychlon yn erbyn ymosodiadau gwrth-Hindŵaidd ym Mangladesh.”
Ymosodiadau Bangladesh
Yn Mangladesh ar 13 Hydref, fe wnaeth o leiaf chwech person Hindŵ gael ei ladd, a channoedd o dai a busnesau gael eu llosgi.
Daeth hynny ar ôl i lun, a oedd yn cael ei ddehongli yn sarhaus i Fwslemiaid, gael ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae’r awdurdodau ym Mangladesh wedi arestio 300 o bobol yn dilyn hynny, ar ôl i’r Prif Weinidog Sheikh Hasina addo “ymlid” yr ymosodwyr.