Mae’r BBC wedi cyhoeddi cynlluniau i sicrhau bod eu cynnwys yn fwy teg, cywir a diduedd.
Daw’r weithred mewn ymateb i Adolygiad Serota i mewn i lywodraethu a diwylliant y darlledwr.
Roedd yr adolygiad – a gafodd ei arwain gan gadeirydd Cyngor Celfyddydau Lloegr, Syr Nicholas Serota – yn cynnig nifer o awgrymiadau ar sut i wella safonau golygyddol, gan ddweud bod angen “gwneud mwy i wreiddio gwerthoedd golygyddol i ffabrig y gorfforaeth.”
Roedd yn ychwanegu hefyd bod rhai unigolion a gafodd eu holi yn teimlo bod “unigolion, gan gynnwys staff adnabyddus ac uchel yn y cwmni, ddim wastad yn cael eu dal i gyfrif am dorri safonau golygyddol.”
Mae’r canfyddiadau a’r awgrymiadau dilynol wedi cael eu derbyn gan y BBC, a byddan nhw nawr yn cynllunio ar gyfer “gweithred fwyaf sylweddol y BBC i sicrhau bod eu rhaglenni a chynnwys yn deg, cywir a diduedd, a’n wir adlewyrchu’r cyhoedd mae’n ei gynrychioli.”
Adolygiad
Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y newyddiadurwr Martin Bashir wedi “ymddwyn yn dwyllodrus” wrth sicrhau cyfweliad gyda’r Dywysoges Diana ar gyfer y BBC.
Dywedodd Syr Nicholas Serota mewn datganiad: “Does dim amheuaeth bod y BBC yn lle gwahanol iawn i 25 mlynedd yn ôl a, diolch byth, mae cynnydd wedi ei wneud.
“Serch hynny, mae cyfle i’r tîm sy’n arwain y BBC fynd ymhellach a sicrhau bod cywirdeb, didueddrwydd, tegwch ac uniondeb yn cael eu hymgorffori’n ddyfnach ar draws y sefydliad.
“Gallai a dylai’r BBC gael ei ddwyn i gyfrif yn fwy trylwyr wrth ystyried y gwerthoedd a’r safonau craidd hyn.
“Dim ond trwy wella tryloywder a didwylledd, yn fewnol ac yn allanol, y mae modd cyflawni hynny.
“Mae gennyn ni bob hyder bod arweinwyr y BBC yn deall hyn, a hefyd yn deall yr angen gwirioneddol i gyflawni gwelliannau ar ran cynulleidfaoedd.”
Ymateb y BBC
Roedd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yn croesawu’r adolygiad, a’n hyderus bydd y newidiadau maen nhw am eu cyflwyno yn adlewyrchu eu gwerthoedd yn well.
“Gwerthoedd golygyddol y BBC o ddidueddrwydd, cywirdeb ac ymddiriedaeth yw sylfaen ein perthynas â chynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd,” meddai.
“Mae ein cynulleidfaoedd yn haeddu ac yn disgwyl rhaglenni a chynnwys sy’n ennill eu hymddiriedaeth bob dydd, ac mae’n rhaid i ni gyrraedd y safonau uchaf a dal ein hunain yn atebol ym mhopeth a wnawn.
“Mae’r newidiadau rydyn ni wedi’u cyhoeddi nid yn unig yn sicrhau ein bod ni’n dysgu’r gwersi o’r gorffennol ond hefyd yn amddiffyn y gwerthoedd hanfodol hyn ar gyfer y dyfodol.”