Mae cynlluniau gwerth £200m i agor safle yn Sir y Fflint sy’n troi gwastraff yn drydan wedi cael eu cymeradwyo.
Daw hyn er gwaethaf pryderon ynglŷn â’r effeithiau y byddai’r cynllun yn ei gael ar yr amgylchedd.
Fe wnaeth cynghorwyr gyfarfod yr wythnos hon i drafod y cais i adeiladu gorsaf ‘nwyeiddio’ ar barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Yn rhan o’r cynllun, bydd hyd at 80,000 tunnell o danwydd sy’n deillio o sbwriel yn cael ei drin yn yr hen orsaf bŵer Gaz de France yn flynyddol.
Y bwriad yw creu 9.9 megawat o drydan, a bydd y rhan fwyaf o’r trydan hwnnw yn cael ei ddefnyddio i bweru lleoliadau cyfagos, gan gynnwys safle rheoli gwastraff a ffatri Toyota.
Pryderon
Roedd pryderon wedi codi ynglŷn ag effaith y cynllun ar yr ardal, gyda sawl cynghorydd yn Sir y Fflint yn honni y byddai’n achosi llygredd.
Fe gododd y Cynghorydd dros ward Sealand, Christine Jones, y pryderon hynny mewn cyfarfod pwyllgor cynllunio ddydd Mercher (27 Hydref).
“[Mae‘r tir] yna er budd datblygu busnes arall a fydd yn darparu swyddi, ond mae gen i bryderon am yr effeithiau fyddai’n codi o’r cynllun hwn,” meddai.
“Byddai llawer iawn o’r gwastraff hwn yn dod o weithfeydd ynni sy’n cael eu hadeiladu ger ein cymunedau, a dyma un arall fydd yno.
“Fy mhryder i yw’r allyriadau a sut maen nhw am gael eu monitro.
“Mae gennyn ni simnai mawr arall yn agos sy’n 65 metr o uchder, ac os edrychwch chi ar draws y gorwel o’r Bont Las, y cyfan yr ydych yn ei weld yw simneiau.”
Caniatâd
Roedd uwch swyddog cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn awgrymu y dylid rhoi caniatâd, gan na fyddai nifer sylweddol o allyriadau yn cael eu cynhyrchu.
Cafodd hynny ei adleisio gan Howard Jones, asiant cynllunio sy’n gweithredu ar ran y fenter gan gwmni Logik WTE.
“Mae’r cais cynllunio yn cael ei gefnogi gan gyfres o asesiadau gan gynnwys trafnidiaeth, ecoleg, sŵn ac ansawdd aer, sydd wedi ystyried effaith gronnus datblygiadau eraill yn yr ardal,” meddai.
“Daeth yr asesiadau i gyd i’r casgliad na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effeithiau sylweddol ar arferion dynodedig yn y cyffiniau nac ar ddiogelwch neu amwynder preswylwyr.”
Mae’n debyg y bydd 35 o swyddi llawn amser yn cael eu creu unwaith y bydd y safle’n agor.
Bydd yn rhaid i’r safle stopio gweithredu erbyn 2050 gan fod strategaeth sero-net Llywodraeth Cymru yn datgan na fydd gwastraff yn cael ei yrru i safleoedd tirlenwi neu losgyddion erbyn hynny.
Fe gymeradwyodd y pwyllgor y cynllun o ddeuddeg pleidlais i un, gyda thri chynghorydd yn gwrthod pleidleisio.