Mae clwb pêl-droed Caerdydd yn paratoi i ddechrau pennod newydd heb Mick McCarthy wrth y llyw.

Ar gyfer y tair gêm nesaf, gan gynnwys y gêm oddi cartref yn erbyn Stoke City yfory am 15:00 (dydd Sadwrn, Hydref 30), bydd yr Adar Gleision yn cael eu rheoli gan y ddau Gymro, Steve Morison a Tom Ramasut, sef hyfforddwyr tîm dan-23 y clwb.

Mae’n debyg fod Ramasut, sydd â phedwar cap i dîm dan-21 Cymru, yn un o’r unig siaradwyr Cymraeg sydd wedi rheoli clwb Caerdydd.

Bydd Steve Morison yn enw cyfarwydd i rai o gefnogwyr Cymru, ar ôl iddo ennill 20 cap i’r tîm cenedlaethol rhwng 2010 a 2012.

Wrth ystyried y swydd barhaol, mae nifer o enwau wedi cael eu crybwyll – fel is-hyfforddwr Rangers, Michael Beale, a chyn-reolwr Sheffield United, Chris Wilder.

Torri’r felltith?

Dros y penwythnos, bydd Caerdydd yn targedu eu buddugoliaeth gyntaf ers 12 Medi, ar ôl iddyn nhw golli wyth gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Maen nhw ar hyn o bryd yn safle 21 – ddau bwynt oddi ar y safleoedd gollwng – ond mae eu rhediad nhw dros y ddau fis diwethaf yn waeth na’r un.

Mae’r gwrthwynebwyr, Stoke City, yn un o lond llaw o dimau sydd ar 21 o bwyntiau ac yn brwydro i gyrraedd y safleoedd ail gyfle yn gynnar yn y tymor.

Ond maen nhw hefyd wedi gweld eu lwc yn diflannu dros yr wythnosau diwethaf, gyda thair colled o’r bron yn y Bencampwriaeth yn erbyn Sheffield United, Bournemouth a Millwall.

Gair gan y rheolwr

Fe wnaeth Steve Morison gynnal y gynhadledd i’r wasg cyn y gêm dros y penwythnos, gan ddweud bod angen iddo danio rhywbeth yn y chwaraewyr.

“Rydyn ni mewn brwydr ar y funud ac mae angen i ni ei gadael hi,” meddai.

“Rydw i yma i helpu a cheisio cael rhai canlyniadau cadarnhaol.

“Gobeithio y gallwn ni ddechrau rhywbeth dros yr wythnos nesaf hon, cael rhediad go lew a bydd hynny’n gwneud y ddwy gêm gartref yn wirioneddol gyffrous.

“Mae’n rhaid i fi allu symleiddio pethau a rhoi ychydig o hyder ynddynt.

“Rydyn ni’n gwybod bod y gallu ganddyn nhw, felly dim ond eu cael nhw i gyfleu hynny ar y cae sydd gennym ni i’w wneud.

“Dw i wedi dweud wrthyn nhw: ‘Does dim pwysau arnoch chi nawr – mae’r pwysau i gyd arna i.”

Newyddion y timau

Mae gan Gaerdydd eu holl chwaraewyr i ddewis ohonyn nhw ar gyfer y gêm, a fydd yn newyddion da i’r ddau reolwr dros dro i ddechrau arni.

Bydd rhaid i Kieffer Moore a Sean Morrison ddarbwyllo’r rheolwyr os ydyn nhw am ddechrau’r gêm, gan eu bod nhw wedi methu allan ar yr 11 cychwynnol yn erbyn Middlesbrough wythnos diwethaf.

I’r gwrthwynebwyr, mae’r ddau Gymro, Adam Davies a James Chester, yn debygol o ddychwelyd i Stoke, sydd â Joe Allen yn gapten iddyn nhw.

Mae’r Cymro arall, Morgan Fox, yn mynd i fod yn absennol oherwydd anaf i linyn y gar.