Bydd cabinet Cyngor Powys yn trafod argymhelliad i gau ysgol gynradd yn y sir dros yr wythnosau nesaf.

Mae cais wedi ei roi i’r cabinet i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llanbedr ger Crughywel, fel rhan o strategaeth y Cyngor ar gyfer trawsnewid addysg ym Mhowys rhwng 2020 a 2030.

Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad ar y cynnig, a gafodd ei gynnal rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, a bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu trafod yng nghyfarfod y cabinet ddydd Mawrth, 9 Tachwedd.

Cafodd yr ysgol gynradd yn Llanbedr ei hagor bron i 300 mlynedd yn ôl yn 1728, ond mae niferoedd isel o ddisgyblion yn ogystal â chostau rhedeg yr ysgol wedi codi pryderon.

Pe bai’r cabinet yn cymeradwyo’r argymhelliad, byddai’r cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y penderfyniad yn ffurfiol, a byddai’r broses o gau’r ysgol erbyn diwedd Awst 2022 yn dechrau.

Yn dilyn hynny, byddai’r disgyblion yn cael eu symud i ysgolion eraill cyfagos.

Strategaeth addysg

Y Cynghorydd Phyl Davies yw’r Aelod Cabinet ar Addysg ac Eiddo, ac mae’r adran honno’n argymell cau’r ysgol yng nghrombil y Mynyddoedd Duon.

“Hoffem ddiolch yn fawr i bawb am eu sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn,” meddai.

“Ar ôl pwyso a mesur yr holl atebion, yr argymhelliad fydda i’n ei gyflwyno i’r Cabinet yw parhau gyda’r cynnig a chyhoeddi hysbysiad statudol ffurfiol i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr.

“Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid y profiadau i ddysgwyr a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn wireddu hyn trwy ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.

“Mae hon yn strategaeth uchelgeisiol a chyffrous, ac yn ein barn ni, bydd yn rhoi’r dechrau gorau posibl a haeddiannol i’n dysgwyr.”

‘Nid ar chwarae bach’

“Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau rhoi’r strategaeth ar waith, bydd penderfyniadau anodd yn ein hwynebu wrth i ni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu addysg ym Mhowys gan gynnwys nifer fawr o ysgolion bach yn y sir, gostyngiad yn nifer y disgyblion a nifer fawr o leoedd gwag,” meddai Phyl Davies.

“Nid ar chwarae bach y daethom i’r penderfyniad hwn ond rydym wedi sicrhau mai buddiannau gorau dysgwyr yr ysgol hon sydd bwysicaf wrth wneud y penderfyniad hwn.

“Os bydd yr ysgol yn cau, yna bydd y dysgwyr yn mynychu ysgolion sydd mewn gwell sefyllfa i ateb gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd ac a fydd yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol.”

Bydd y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau’n trafod y cynnig ddydd Iau 4 Tachwedd.