Mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio ar strydoedd Llundain, gan fynnu bod banciau yn rhoi’r gorau i ariannu tanwydd ffosil.

Buon nhw’n gweiddi: “Sicrhewch ein dyfodol, nid llygredd” wrth iddynt wneud eu ffordd o Lloyd’s i Macquarie Capital.

Mae disgwyl i’r ymgyrchydd Greta Thunberg siarad y tu allan i Standard Chartered brynhawn Gwener (29 Hydref).

Mae hi’n un o filoedd o ymgyrchwyr sy’n mynychu protestiadau ar draws 26 o wledydd.

Tyfu

Wrth i’r ymgyrchwyr wneud eu ffordd drwy strydoedd Llundain, cawsant eu hebrwng gan swyddogion Heddlu Dinas Llundain.

Chwaraeodd fand y gân Power To The People wrth i’r orymdaith wneud ei ffordd o Lime Street i Ropemaker Street.

Ymunodd tua 70 o ymgyrchwyr yn y protestiadau bore ’ma, gyda’r niferoedd yn tyfu ar bob safle.

Daw’r protestiadau ddyddiau cyn i arweinwyr y byd gyfarfod yng Nglasgow ar gyfer uwchgynhadledd Cop26, lle byddan nhw’n trafod sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn 2015, llofnododd gwledydd gytundeb Paris i gyfyngu ar y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i 1.5C a chyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.

Dywed yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol nad oes modd archwilio rhagor o olew a nwy ar ôl eleni.