Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid wedi addo gweithredu i helpu i dorri’r tabŵ menopôs a rhoi mwy o gefnogaeth i fenywod.

Cyhoeddodd y Llywodraeth becyn o fesurau mewn ymateb i alwadau i eithrio therapi amnewid hormonau (HRT) o daliadau presgripsiwn y GIG yn Lloegr – gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Chymru a’r Alban.

Bydd hyn yn golygu y bod menywod yn talu unwaith am gyflenwad o 12 mis o HRT, gan arbed hyd at £205 y flwyddyn.

Bydd tasglu menopôs hefyd yn cael ei sefydlu mewn ymgais i “fabwysiadu dull cydlynol o wella cefnogaeth” i’r rhai sy’n profi’r menopôs.

Daeth yr ymrwymiadau wrth i ASau ystyried y Bil Menopôs (Cymorth a Gwasanaethau), a gyflwynwyd gan yr AS Dwyrain Abertawe Llafur, Carolyn Harris.

Ymyrrodd Sajid Javid yn gynharach i ddangos ei fwriad i gydweithredu ag ASau o bob plaid ar ôl i’r gweinidog iechyd cysgodol Liz Kendall sôn am ei phrofiadau ei hun o’r menopôs.

“Llais”

Dywedodd Liz Kendall wedi dweud bod ASau yn “rhoi llais” i’r 13 miliwn o fenywod sy’n dioddef menopôs.

“Mae eu hanghenion wedi cael eu bychanu neu eu hanwybyddu’n rhy hir,” meddai.

Wrth drafod ei phrofiad ei hun, dywedodd: “I fod yn onest, dydw i ddim yn siŵr iawn pryd ddechreuodd y symptomau ond roedden nhw wedi bod yn adeiladu’n gyson dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Y teimlad eithaf brawychus o bryder a phanig nad oeddwn erioed wedi’i brofi o’r blaen.

Blinedig

“Teimlo’n hollol flinedig, dolurus ac yn crafu i gyd, gan feddwl gyda’r nos pe gallwn ei gwneud hi fyny’r grisiau i fynd i’r gwely – heb sôn am wneud yr ymarfer corff sydd wastad wedi bod yn rhan mor bwysig o fy mywyd.

“Mae’r cosi, colli’r gwallt, a theimlo’n hollol isel, ac yn fwy na dim yr hyn allaf ond ei ddisgrifio fel cwsg trychinebus o wael noswaith ar ôl noswaith – wedyn deffro yn y bore a meddwl ‘Sut ar y ddaear ydw i’n mynd i’w gwneud hi drwy’r dydd?’

“Ac, fel cynifer o fenywod, doedd gen i ddim syniad o gwbl beth oedd yn digwydd.”

Talodd deyrnged i Sajid Javid, gan ychwanegu: “Siaradais ag ef yr wythnos diwethaf, siaradais ag ef yn gynharach heddiw, ac mae’n ein cefnogi’n llwyr ac yn dymuno chwalu tabŵiau’r menopôs a gwneud mwy dros fenywod.”