Mae Mark Drakeford wedi dweud bod 2,000 achos o ffurf newydd o’r amrywiolyn Delta o Covid-19 yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi canlyniad adolygiad y tair wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog fod sydd y ffurf newydd o’r amrywiolyn Delta yn fwy trosglwyddadwy, yn fwy heintus ac yn gwneud pobl yn fwy sâl
Dywedodd ei fod yn tynhau’r cyfyngiadau Covid-19, wrth i achosion gynyddu ac wrth i’r gaeaf agosáu.
Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 820 o gleifion mewn ysbytai ar hyn o bryd efo Covid, a bod tua un mewn 40 o bobol yng Nghymru efo’r firws.
Mae’r Prif Weinidog yn honni bod lefelau uchel ymysg pobol a lledaeniad drwy aelodau teulu wedi achosi’r cynnydd, yn ogystal â’r camgymeriadau canlyniadau profion yn ddiweddar yn deillio o labordy yn Lloegr.
Roedd o hefyd yn feirniadol o Lywodraeth Prydain am israddio’r holl wledydd o’r rhestr teithio coch.
Cyfyngiadau newydd
Mae Llywodraeth Cymru yn tynhau cyfyngiadau Covid er mwyn mynd i’r afael a’r nifer cynyddol sydd yn yr ysbyty oherwydd y firws.
- Fe fydd oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, a phobl ifanc rhwng pump ac 17 oed, yn gorfod hunan-ynysu nes eu bod nhw wedi cael prawf PCR negatif os oes gan rywun ar yr aelwyd symptomau neu sy’n cael prawf positif am Covid-19.
- Fe fydd pobl sydd heb gael eu brechu yn dal i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif, gan gynnwys cysylltiadau agos y tu allan i’w haelwyd.
- Fe fydd prifathrawon yn cael cymorth ychwanegol i roi mesurau mewn lle yn brydlon mewn ysgolion os yw cyfraddau’n codi’n sylweddol yn lleol.
- Fe fydd staff a disgyblion ysgolion uwchradd yn cael eu hannog i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos er mwyn helpu i gadw coronafeirws draw o ysgolion.
- Mae Llywodraeth Cymru hefyd am ymestyn y Pas Covid ar gyfer theatrau, sinemâu a neuaddau o 15 Tachwedd, ac os bydd cynnydd pellach, byddan nhw’n ystyried ei ymestyn i’r sector lletygarwch.
Serch hynny fe fydd y wlad yn parhau ar rybudd lefel sero, ac erbyn dydd Llun, 1 Tachwedd, mae disgwyl y bydd pawb o gartrefi gofal wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu, a bydd pawb rhwng 12 i 15 oed wedi cael cynnig dos o’r brechlyn.
Datganiad
Yn ei ddatganiad, dywedodd Mark Drakeford fod ymchwiliadau rhagarweiniol wedi canfod bod y ffurf newydd o’r amrywiolyn Delta tua 10% yn fwy heintus, a bod y rhai sy’n ei ddal yn 10% fwy tebygol o fynd yn ddifrifol wael.
“Rydyn ni wedi nodi tua 2,000 o achosion o ffurf newydd a mwy heintus o’r amrywiolyn Delta yng Nghymru,” meddai.
“Pan gaiff y ffigyrau hynny eu hymchwilio’n llawn, mae posib y byddwn yn gweld fod yr amrywiolyn newydd yn fwy heintus ac yn fwy difrifol.
Dileu rhestr teithio coch
Roedd y Prif Weinidog hefyd yn ddirmygus o Lywodraeth Prydain am leihau cyfyngiadau ar deithio tramor.
“Rydyn ni’n gresynu at y penderfyniadau y mae Llywodraeth Prydain wedi eu gwneud o ran teithio rhyngwladol,” meddai.
Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod grŵp SAGE “bron yn sicr” y bydd amrywiolyn newydd yn ymddangos yn y Deyrnas Unedig.
“Mae yna bosibilrwydd y bydd yr amrywiolyn hwnnw yn gallu gwrthsefyll y brechlyn sydd gennyn ni ar hyn o bryd,” meddai.
“Rydyn ni wedi dadlau ers amser bod cyfyngiadau Llywodraeth Prydain wedi codi’r amddiffynfeydd yn uwch fel bod amrywiolion newydd o’r firws ddim yn cael eu mewnforio o dramor.”
Bydd Cymru yn parhau i ddilyn cyfyngiadau lefel sero, ond fe rybuddiodd Mark Drakeford y gall hynny newid erbyn pan fyddan nhw’n gwneud diweddariad arall ymhen tair wythnos, ac erbyn y gaeaf.