Mae Llywodraeth Cymru yn tynhau cyfyngiadau Covid er mwyn mynd i’r afael a’r nifer cynyddol sydd yn yr ysbyty oherwydd y firws.
- Fe fydd oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, a phobl ifanc rhwng pump ac 17 oed, yn gorfod hunan-ynysu nes eu bod nhw wedi cael prawf PCR negatif os oes gan rywun ar yr aelwyd symptomau neu sy’n cael prawf positif am Covid-19.
- Fe fydd pobl sydd heb gael eu brechu yn dal i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif, gan gynnwys cysylltiadau agos y tu allan i’w haelwyd.
- Fe fydd prifathrawon yn cael cymorth ychwanegol i roi mesurau mewn lle yn brydlon mewn ysgolion os yw cyfraddau’n codi’n sylweddol yn lleol.
- Fe fydd staff a disgyblion ysgolion uwchradd yn cael eu hannog i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos er mwyn helpu i gadw coronafeirws draw o ysgolion.
- Mae Llywodraeth Cymru hefyd am ymestyn y Pas Covid ar gyfer theatrau, sinemâu a neuaddau o 15 Tachwedd, ac os bydd cynnydd pellach, byddan nhw’n ystyried ei ymestyn i’r sector lletygarwch.
Serch hynny fe fydd y wlad yn parhau ar rybudd lefel sero, ac erbyn dydd Llun, 1 Tachwedd, mae disgwyl y bydd pawb o gartrefi gofal wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu, a bydd pawb rhwng 12 i 15 oed wedi cael cynnig dos o’r brechlyn.
“Dim dewis”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Dros y tair wythnos ddiwethaf, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws wedi cynyddu’n sylweddol i’r cyfraddau uchaf ry’n ni wedi gweld ers dechrau’r pandemig ac mae mwy o bobl yn cael eu taro’n ddifrifol wael ac angen triniaeth yn yr ysbyty.
“Mae hyn yn golygu bod y pandemig ymhell o fod ar ben. Mae’n rhaid i ni gymryd camau pellach i gryfhau’r mesurau sydd mewn lle ar rybudd lefel sero er mwyn osgoi lledaenu’r coronfeirws ymhellach a bod mwy o bobl yn ddifrifol wael.”
Ychwanegodd: “Does yr un ohonon ni eisiau gweld y cyfyngiadau’n cael eu hail-gyflwyno ond os yw cyfraddau’n parhau i godi, fydd dim dewis gan y Cabinet ond ystyried codi’r lefel rhybudd yn yr adolygiad nesaf.”
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobl i weithio gartref lle mae hynny’n bosib ac yn parhau i’w gwneud yn orfodol i wisgo masgiau mewn llefydd cyhoeddus dan do.
‘Gweithio gyda’n gilydd’
Wrth gael ei holi ar raglen Today ar BBC Radio 4, pan ofynnwyd iddo beth arall y gellid ei wneud, dywedodd: “Yn sicr gallwn ymestyn y pas Covid i leoliadau eraill. Byddwn yn siarad â busnesau lletygarwch dros y tair wythnos nesaf i’w helpu i baratoi, pe bai hynny’n angenrheidiol. Gobeithiwn na fydd, wrth gwrs.
“Byddwn yn mynd yn ôl at yr asesiadau risg a gynhelir gennym yn y gweithle i weld a oes mwy y gallwn ei wneud, mwy o bobl yn gweithio gartref, yn ôl i ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle, gan edrych ar y ffordd mae ysgolion yn cael eu trefnu i geisio atal mwy o bobl ifanc rhag cael eu heintio.
“Mae’r lefel bresennol o gyfyngiadau yng Nghymru yr isaf maen nhw wedi bod ers dechrau’r coronafeirws. Rydw i am iddo aros felly, er mwyn cadw Cymru’n ddiogel, i gadw Cymru ar agor. Yr hyn rwy’n ei ddweud wrth bobl heddiw yw, oni bai ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i leihau’r niferoedd, os ydyn nhw’n codi eto ymhen tair wythnos, bydd yn rhaid i ni i gyd fod yn ail-ystyried.”
‘Cyflymu’r rhaglen frechu nid cyfyngiadau’
Ond mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Russell George AoS wedi beirniadu’r cynlluniau:
“Mae penderfyniad gweinidogion Llafur i ymestyn y defnydd o basbortau brechlyn Covid i rannau eraill o gymdeithas yn amheus, yn enwedig gan fod llawer o wrthwynebiad i’w cyflwyno yng Nghymru ac nid yw eto wedi sicrhau gostyngiad amlwg yn lledaeniad y feirws.
“Cyfrifoldeb y llywodraeth yw achub bywydau a diogelu bywoliaeth ac mae wedi bod yn glir ers peth amser mai’r ffordd allan o’r pandemig yw’r rhaglen frechu, nid cyfyngiadau clo a chyfyngiadau.
“Bydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda’r feirws a’r flaenoriaeth ar hyn o bryd i weinidogion Llafur ddylai fod cyflymu’r rhaglen frechlyn atgyfnerthu fel y gallwn barhau i achub bywydau, diogelu bywoliaeth, a chael Cymru ar y ffordd i wella ar ôl heriau’r 18 mis diwethaf.”