Mae darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe’n rhybuddio y gallai diffyg eglurder negeseuon Covid-19 Llywodraeth Cymru arwain at gynnydd mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio pe bai rhagor o gyfyngiadau’n cael eu cyflwyno.
Wrth i arweinwyr iechyd alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cynlluniau wrth gefn ar waith, mae Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, yn arbenigo ym maes ymddygiad yn ystod cyfnod Covid-19, yn rhybuddio y bydd angen negeseuon clir gan y ddwy lywodraeth os ydyn nhw am sicrhau cydymffurfiaeth ar raddfa fawr.
Daw hyn ar ôl i astudiaeth ar y cyd gan y brifysgol a Phrifysgol Manceinion gael ei gyhoeddi, gan nodi bod dryswch ynghylch y rheolau, diffyg ymddiriedaeth yn llywodraethau’r Deyrnas Unedig a theimladau o fod yn ddiymadferth neu’n wrthryfelgar ymhlith y prif ffactorau sy’n cyfrannu at dorri’r cyfyngiadau.
“Dryswch ynghylch rheolau”
Cafodd yr ymchwil ei harwain gan Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Dr Kimberly Dienes, Darlithydd Seicoleg Glinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Christopher Armitage o Ganolfan Seicoleg Iechyd Prifysgol Manceinion, a’r ymgynghorydd arbenigol Tova Tampe.
“Er mwyn helpu i osgoi argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y gaeaf, mae angen i lywodraethau’r Deyrnas Unedig ystyried y rhesymau pam nad yw rhai pobol yn glynu wrth y rheolau nac yn dilyn canllawiau er mwyn atal trosglwyddiad eang, ac efallai y bydd llai o bobl yn cydymffurfio â mesurau ychwanegol os cânt eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf,” meddai Dr Simon Williams.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr grwpiau ffocws ar-lein gyda 51 o oedolion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i drafod eu profiadau o Covid-19, gan ddod i’r casgliadau canlynol:
- Prif achos diffyg cydymffurfio oedd dryswch ynghylch rheolau a oedd yn newid yn rheolaidd, yn ogystal â’r ffaith bod gan wledydd y Deyrnas Unedig reolau gwahanol i’w gilydd.
- O ganlyniad i fynychder y newidiadau i’r rheolau a’r cyhoeddiadau gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig, roedd llawer o bobol wedi blino ar rybuddion – gan deimlo nad oedden nhw yn gallu dilyn, deall na chofio rheolau penodol, oherwydd eu bod wedi cael gormod o gyfarwyddiadau a gwybodaeth.
- Roedd diffyg ymddiriedaeth yn llywodraethau’r Deyrnas Unedig yn ffactor mawr i rai pobol.
‘Blino ar rybuddion’
Daeth yr astudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi gan PLOS ONE, i’r casgliad hefyd fod rhai pobol wedi dysgu i deimlo’n ddiymadferth, a’u bod yn teimlo fel eu bod wedi rhoi’r gorau i ddilyn rheolau ynghylch Covid-19.
Mae’n bosib bod pobol eraill yn gynyddol wrthwynebus neu wrthryfelgar ynghylch y rheolau, meddai, a bod rhai pobol yn poeni y byddai cyfyngiadau symud parhaus yn arwain at anrhefn sifil gynyddol.
“Yn ôl ein hastudiaeth, yn amlach na pheidio, pan nad oedd pobl yn dilyn mesurau, roedd yn deillio o’r ffaith ei bod hi’n anodd iddynt ddeall y rheolau, gan iddynt newid mor aml dros amser ac mewn lleoedd gwahanol – er enghraifft, mewn gwledydd gwahanol yn y Deyrnas Unedig,” meddai Dr Simon Williams, prif awdur yr astudiaeth.
“Yn yr achosion hyn, nid oedd pobol yn torri’r rheolau’n fwriadol, ond roeddent yn eu haddasu neu’n eu dehongli hyd orau eu gallu.
“Un o’n prif themâu oedd bod rhai pobol wedi blino ar rybuddion.
“Nid oedd y bobol hyn yn amgyffred gwybodaeth mwyach, neu roedd yn anodd iddynt gofio gwybodaeth bwysig, gan eu bod wedi cael gormod o wybodaeth.
“Mae llawer o bobol wedi hen flino ar fynychder y newidiadau i’r rheolau a’r cyhoeddiadau, neu maent yn teimlo bod y rhain yn drech na hwy, ac efallai fod hynny’n arwain at dorri rheolau’n anfwriadol.”
‘Pobol wedi dysgu i deimlo’n ddiymadferth’
“Un o brif ganfyddiadau ein gwaith ymchwil oedd bod pobol wedi dysgu i deimlo’n ddiymadferth,” meddai Dr Kimberly Dienes, seicolegydd clinigol ac iechyd ac un o’r cyd-awduron.
“Dyma gyflwr seicolegol lle mae pobol yn rhoi’r gorau i geisio cyflawni rhywbeth oherwydd eu bod yn teimlo’n ddiymadferth.
“Fel rheol, mae hyn yn golygu rhoi’r gorau i ymddygiad iach penodol, fel derbyn bod ceisio rhoi’r gorau i ysmygu neu lynu wrth ddeiet yn ormod iddynt.
“Yn yr achos hwn, roedd rhai pobol wedi dysgu i deimlo’n ddiymadferth ac wedi rhoi’r gorau i geisio dilyn rheolau nad oeddent yn eu deall neu reolau a oedd yn methu, yn eu barn hwy.”