Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, bydd gwrandawiad ple ar gyfer dyn 19 oed sydd wedi ei gyhuddo o ladd ei chwaer mewn parc carafannau ger Abergele ym mis Gorffennaf.

Mae Matthew Selby o Ashton-under-Lyne ym Manceinion wedi ei gyhuddo o ladd ei chwaer 15 blwydd oed, Amanda.

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ger Abergele wedi adroddiadau o “aflonyddwch domestig” ddydd Sadwrn, Gorffennaf 31.

Fe fydd yn ymddangos yn y llys heddiw (29 Hydref) er mwyn cyflwyno ple.

Mae disgwyl i’r achos yn erbyn Matthew Selby ddechrau ar 28 Chwefror.

 

Pennu dyddiad ar gyfer achos llys dyn sydd wedi’i gyhuddo o ladd ei chwaer mewn parc carafannau

Matthew Selby, 19, wedi ymddangos drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyhuddiad o lofruddio ei chwaer, Amanda

Teyrngedau i ferch 15 oed “gariadus” fu farw mewn parc gwyliau

Bydd teulu Amanda Selby, a oedd yn dod o ardal Manceinion, yn “ei cholli’n ofnadwy,” meddent mewn datganiad