Mae cwest wedi clywed bod myfyriwr 21 oed wedi cael ei chanfod yn farw ar ôl cael gwybod ar gam ei bod hi wedi methu arholiad ac na allai symud ymlaen i’w thrydedd flwyddyn.
Roedd Mared Foulkes o Borthaethwy ym Môn yn astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac eisoes wedi pasio ar ôl ailsefyll asesiad.
Ond doedd ei chanlyniad o’r arholiad yr eildro ddim wedi ymddangos yn ei negeseuon e-bost canlyniadau ar Orffennaf 8, 2020.
Cafodd ei chorff ei ganfod ar Bont Britannia.
Diffyg cefnogaeth yn “warthus”
Roedd Mared Foulkes yn astudio Fferylliaeth, ac mae ei rhieni wedi disgrifio’r diffyg cymorth gan Brifysgol Caerdydd yn “warthus”.
Mewn cwest yng Nghaernarfon heddiw (dydd Iau, Hydref 28), dywedodd ei mam fod y diffyg cymorth hwn wedi arwain at farwolaeth ei merch.
Cafodd ei disgrifio gan ei mam fel merch oedd yn “caru ei theulu a’i ffrindiau” oedd â ffocws ar ddatblygu ei gyrfa.
Dywedodd pennaeth fferylliaeth y brifysgol fod angen dysgu gwersi a byddai newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffordd y cafodd canlyniadau arholiadau eu cadarnhau a’u rhoi i fyfyrwyr.
Roedd Mared Foulkes wedi bod yn gweithio mewn fferyllfa yng Nghaernarfon rhwng ei hastudiaethau, a dywedodd y staff yno ei bod yn “hyfryd, yn gwrtais ac yn gweithio’n galed”.
Parhaodd â’i hastudiaethau a gweithiodd gartref yn bennaf yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2020.
Bu’n rhaid iddi hefyd ddygymod â marwolaeth ei mam-gu fis Mai y llynedd.
Mae’r cwest yn parhau.