Mae’r penderfyniad i gadw cerflun H.M. Stanley yn Ninbych wedi achosi ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mewn pleidlais gyhoeddus, roedd 471 o bobol o blaid cadw’r cerflun yng nghanol y dref, tra bod 121 eisiau cael ei wared.

Er gwaetha’r mwyafrif llethol hynny, roedd pobol yn tynnu sylw at y niferoedd isel a bleidleisiodd, gyda rhai’n honni ei fod yn is na 10% o boblogaeth y dref.

Mae’r cerflun wedi achosi cryn ddadlau oherwydd hanes y person mae’n ei ddarlunio, sef Henry Morton Stanley, a oedd yn fforiwr ac yn anturiaethwr o Oes Fictoria.

Mae cysylltiadau Stanley gyda’r ffigwr dadleuol Brenin Leopold II, a oedd yn gyfrifol am droseddau erchyll yn ystod y cyfnod imperialaidd, wedi gwneud i bobol ailfeddwl y ffordd mae’n cael ei gyfleu erbyn heddiw.

Ymateb

Mae’r hanesydd Simon Brooks yn credu y dylid cael gwared â’r cerflun a’i gyfnewid am un o “ffigwr sy’n nodweddu diwylliant Dyffryn Clwyd”, meddai.

Dywed ar Twitter nad oes gan y cerflun “ddim gwerth hanesyddol”, ac nad yw’r dyn mae’n ei ddarlunio “yn haeddu cael ei gofio’n gyhoeddus”.

‘Amser stopio gwrando’

Roedd ymgyrch Save Our Statues yn dweud bod y canlyniad isel o blaid cael gwared â’r cerflun yn profi bod “yr ymosodiad ar ein hanes a threftadaeth yn cael ei yrru gan leiafrif bychan llafar”.

Roedden nhw’n awgrymu bod y cyfryngau ac awdurdodau lleol yn “wasaidd” i’r lleiafrif hwn, a’i bod hi’n “amser stopio gwrando arnyn nhw.”

94% o’r boblogaeth ddim yn poeni?

Gyda phoblogaeth o bron i 9,000 o bobol, ac ychydig dros 6,000 yn gymwys i bleidleisio, roedd ambell un yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 592 o bobol wnaeth drafferthu gwneud hynny yn rhan o’r ymgynghoriad.

Gofynnodd un a oedd yn ymateb ar Twitter a oedd “94% o’r boblogaeth ddim yn poeni o gwbl?”, tra bod rhywun arall yn dweud bod y “niferoedd isel yn dangos faint oedd pobol wir yn poeni”.

Roedd defnyddiwr arall ar Twitter yn amau faint o gyhoeddusrwydd oedd y bleidlais wedi ei gael yn yr wythnosau yn arwain ati, gan ddweud bod yna “gywilydd” ar Gynghorwyr Tref Dinbych am adael iddo gael ei gadw.