Bydd pwysau sylweddol ar gostau byw y gaeaf hwn, gydag aelwydydd yn wynebu cynnydd mewn prisiau nwy a thrydan.

Bydd cyllideb Cymru yn derbyn hwb o £1.6bn yn 2022-23 o ganlyniad i Gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Mercher, Hydref 27), yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ond heddiw (dydd Iau, Hydref 28), mae ymchwilwyr o brosiect Dadansoddi Cyllid Cymru wedi cyhoeddi eu dadansoddiad annibynnol o gyhoeddiadau’r Canghellor a’u goblygiadau ar gyfer Cymru.

Mae rhagolygon cyllideb Cymru wedi eu trawsnewid ers mis Mawrth 2021, pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynlluniau blaenorol.

Hwb

“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod y cynnydd mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn Lloegr wedi rhoi hwb i gyllideb Cymru,” meddai Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Mae’n ymddangos fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnu ar bolisïau llymder ariannol a oedd yn eu lle yn ystod y degawd cyn y pandemig.

“Ond mae pwysau ar gostau byw yn bryder enfawr ac fe allai’r misoedd nesaf fod yn gyfnod caled i aelwydydd yng Nghymru.”

Bydd disgwyl i wariant craidd, o dydd-i-ddydd Llywodraeth Cymru, ac eithrio cyllid Covid-19, dyfu o 3.1% y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real rhwng 2021-22 a 2024-25.

Fe wnaeth y Gyllideb hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £314m ychwanegol i ariannu gwariant dydd-i-ddydd ar yr ymateb Covid-19 yn 2021-22, gan ddod â’r cyfanswm sydd ar gael eleni i £2.9bn.

£200m o ganlyniad i’r setliad datganoli trethi

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddifidend datganoli trethi disgwyliedig.

Mae’n pwysleisio effaith cadarnhaol trosglwyddo pwerau trethi i Lywodraeth Cymru a’r Senedd.

Mae rhagolygon sydd newydd eu cyhoeddi yn cyfeirio at berfformiad cryf cyfraddau Treth Incwm Cymru a’r Dreth Trafodion Tir, sy’n golygu y gallai Cymru, erbyn 2024-25, fod £200m y flwyddyn yn well ei byd na phe na bai’r trethi hynny wedi’u datganoli.

Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl y newidiadau a gafodd eu cyhoeddi i Gredyd Cynhwysol, bydd aelwydydd Cymru yn dlotach nag y bydden nhw pe bai’r cynnydd o £20 yr wythnos wedi’i adfer yn lle hynny.

Mae pryder hefyd y bydd pwysau sylweddol ar gostau byw oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni.

“Mae’r hwb i’r gyllideb o ganlyniad i ddatganoli trethi hefyd i’w groesawu. Bydd datganoli trethi, efallai yn groes i rai disgwyliadau, yn debygol o fod yn fuddiol i gyllideb Cymru,” meddai Guto Ifan wedyn.

“Wrth i Lywodraeth Cymru lunio ei chynlluniau cyllidebol ei hun dros y misoedd nesaf, bydd angen cydbwyso’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd, llawer o feysydd eraill o wariant, yn ogystal â’r pryderon ynghylch effaith chwyddiant ar aelwydydd difreintiedig.”