Mae cynnig Llywodraeth Cymru o godiad cyflog i weithwyr iechyd yn annigonol, yn ôl undeb UNSAIN.

Heddiw (dydd Iau, Hydref 28), mae Pwyllgor Iechyd UNSAIN Cymru wedi cytuno i gynnal pleidlais ymgynghori ar gyflogau staff y Gwasanaeth Iechyd, ac mae’n argymell eu bod yn gwrthod cynnig newydd Llywodraeth Cymru.

Dywed UNSAIN fod gweithwyr gofal iechyd wedi cael eu “siomi’n arw” gan awgrym Llywodraeth Cymru mai dim ond 1% a diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol y gellid rhoi yn ychwanegol i’r cynnig cyflog gwreiddiol o 3%.

Daw hyn ar ôl i gynrychiolwyr UNSAIN yn y byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru ddweud na fydd y codiad cyflog yn gwneud gwahaniaeth i safonau byw gweithwyr ym maes iechyd.

Gweithredu diwydiannol

Mae UNSAIN yn disgwyl y bydd pleidlais y mwyafrif i wrthod y codiad yn sbardun ar gyfer pleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol.

Yn ôl Dawn Ward, cadeirydd Pwyllgor Iechyd UNSAIN Cymru, dydy staff y Gwasanaeth Iechyd ddim yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol.

“Ni all staff y Gwasanaeth Iechyd ddeall pam fod gwleidyddion yn credu ei bod yn iawn i weithwyr gofal iechyd gael codiad cyflog is na chwyddiant,” meddai.

“Ar ôl popeth rydyn ni wedi’i roi yn ystod Covid, ar ôl degawd o rewi cyflogau neu fylchau cyflog sydd wedi gwasgu ein cyllidebau teuluol, rydym yn haeddu llawer mwy. Dydy clapio ddim yn ddigon.

“Rydym am anfon y neges gryfaf bosibl y dylai Llywodraeth Cymru drin staff y Gwasanaeth Iechyd gydag urddas.

“Mae UNSAIN yn parhau i fod ar gael ar gyfer trafodaethau cyflog, ond mae angen i’r Ysgrifennydd Iechyd ddychwelyd gyda chynnig derbyniol.”

Eisoes mae miloedd o weithwyr iechyd sy’n perthyn i UNSAIN, eisoes wedi pleidleisio 87% yn erbyn gosod dyfarniad is na chwyddiant.

Mae’r undeb yn disgwyl y bydd gwelliannau cymhedrol Llywodraeth Cymru i’r dyfarniad cyflog yn cael eu gwrthod unwaith eto.

Roedd UNSAIN am weld holl staff y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn cynnydd o £2,000.

Bydd UNSAIN yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan i geisio ailagor trafodaethau er mwyn osgoi anghydfod ffurfiol a gweithredu diwydiannol a allai fod yn niweidiol.

Bydd ymgynghoriad cyflogau’r undeb yn rhedeg rhwng Tachwedd 8 a Rhagfyr 10.

Cyhuddo’r Prif Weinidog o siomi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd

Dywedodd Adam Price fod y codiad o 3 y cant yn “ergyd i filoedd o weithwyr gofal iechyd” o ystyried y gost gynyddol o fyw

‘Streicio pe bai angen’ medd un nyrs y Gwasanaeth Iechyd

Jacob Morris

“Rydym wedi rhoi ein bywydau ni yn y fantol i achub cymdeithas ac mae’r codiad pitw yma yn sarhad ar ein gwaith.”