Mae Cyngor Sir Conwy yn gobeithio cynyddu canran y plant sy’n cael addysg Gymraeg o 25% i 39% dros y deng mlynedd nesaf.
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru lunio cynllun ac adroddiad blynyddol i ddangos sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo drwy ysgolion.
Ddydd Mawrth (Hydref 26), fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Conwy gefnogi’r cynllun drafft strategol ar y Gymraeg mewn addysg, a fydd nawr yn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus.
Bydd y cynllun yn pennu sut mae’r Gymraeg yn cael ei siarad o ddosbarthiadau meithrin a derbyn yr holl ffordd drwodd i ysgolion cynradd ac i ysgolion uwchradd.
Mae yno hefyd obaith i gynyddu’r ddarpariaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a chynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith.
Bydd ‘cyfleoedd trochi’ Cymraeg yn cael eu cynnig i blant ysgol gynradd, a bydd y Cyngor yn buddsoddi mewn hyfforddiant i hyrwyddo datblygu gyrfa a gweithlu Cymraeg ei iaith mewn gofal plant.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd y cyngor hefyd yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o fanteision siarad Cymraeg a hyrwyddo’r diwylliant Cymraeg.
‘Lledaenu negeseuon am addysg ddwyieithog’
Y Cynghorydd Julie Fallon yw’r aelod cabinet dros addysg, a hi oedd wedi cyflwyno’r adroddiad.
“Rwy’n gobeithio y byddwn yn llwyddiannus,” meddai.
“A’r gobaith yw unwaith i ni ledaenu negeseuon am addysg ddwyieithog a pha mor dda yw hynny i bobol ifanc ei gael am weddill eu hoes, i gael cyfleoedd, y bydd pobol yn dewis addysg Gymraeg.”
Cefndir
Ar hyn o bryd, mae 20 o ysgolion cynradd Conwy yn dysgu yn Gymraeg.
Mae 14 o ysgolion cynradd yn addysgu yn Saesneg yn bennaf gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg (20-50%), ac mae 17 ysgol yn addysgu llai nag 20% yn y Gymraeg.
Ysgol y Creuddyn yw’r unig ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghonwy, ac mae Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst yn ddwyieithog.
Mae Aberconwy, Bryn Elian, Eirias, Emrys ap Iwan a John Bright i gyd yn ysgolion cyfrwng Saesneg.
‘Sgil bwysig’
“Rydym i gyd yn gwybod, wrth symud ymlaen, ei fod (Cymraeg) yn sgil arbennig iawn ac yn sgil bwysig iawn,” meddai Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Conwy.
“Erbyn 2050/2060, bydd mwy o bobol sydd â sgiliau Cymraeg.
“Bydd yn gwella eu gyrfaoedd ac yn gwella eu bywyd diwylliannol a’u hymdeimlad o berthyn.
“Mae’n lle hyfryd i fod yn byw.”
Cafodd yr adroddiad ei gefnogi yn unfrydol.