Mae cynghorwyr wedi cefnogi cynlluniau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus yng Nghaerffili.
Byddai’r cynlluniau, a fydd yn cael eu penderfynu gan gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn gweld ardaloedd newydd yn cael eu hychwanegu at Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y Cyngor.
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o adnewyddu’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sy’n cwmpasu rhannau penodol o’r fwrdeistref.
Tair blynedd yw uchafswm y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, a dyna pam fod y Cyngor yn adnewyddu’r un presennol.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gan Bwyllgor Craffu ar yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cyngor, cytunodd 87% o’r ymatebwyr y dylid ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol am dair blynedd arall, a chytunodd 96% y dylid ychwanegu meysydd ychwanegol.
Cyflwyno’r gorchymyn mewn llefydd newydd
Bydd y llefydd canlynol yn cael eu hychwanegu at y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd mewn ymgais i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol:
- Gorsaf Reilffordd Hengoed
- Birchgrove, Tirphil
- Maes Parcio Llyfrgell Rhymni
- Parc Eco Cefn Fforest a Phengam
- Gorsaf Reilffordd Crosskeys
- Ffordd Rhisga, Crosskeys
Mae rhai o’r rhesymau a roddodd ymatebwyr dros gefnogi ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cynnwys eu bod eisiau mynd i’r afael ag yfed gormod o alcohol a loetran, yn ogystal â gwneud i’r cyhoedd deimlo’n fwy diogel.
Yn ôl adroddiad a gafodd ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, a gafodd ei gynnal ddydd Mawrth (Hydref 26), mae Heddlu Gwent wedi derbyn 244 o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau ac anhrefn yng ngorsaf fysiau’r Coed Duon yn ystod y tair blynedd diwethaf.
O dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, mae’n drosedd i unigolyn barhau i yfed alcohol os yw’n cael rhybudd gan swyddog awdurdodedig i stopio.
“Rwy’n deall gyda’r pandemig bod plant wedi cael eu cadw i mewn, ond nawr mae’r cyfnod clo drosodd, ac maen nhw allan o reolaeth,” meddai un ymatebydd sy’n pryderu am grwpiau o bobol ifanc yn ymgynnull yn ardal Crosskeys.
“Mae angen mynd i’r afael â hyn, a mwy o blismona.”
Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor, a fydd yn penderfynu a fydd y cynlluniau’n mynd rhagddynt.