Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cyhuddo llywodraeth Cymru o siomi staff y Gwasanaeth Iechyd, wedi i bob un o’r pedwar undeb mwyaf gweithwyr iechyd bleidleisio i wrthod y cynnig o godiad cyflog o 3%.

Dywedodd Adam Price fod y 3% yn “ergyd i filoedd o weithwyr gofal iechyd” o ystyried y gost gynyddol o fyw, a bod y codiad 3 y cant wedi’i “ganslo” i bob pwrpas i’r rhan fwyaf o weithwyr y gwasanaeth.

Mae’r cynnig o 3% yn debygol o fod yn is na chyfradd chwyddiant – sy’n golygu i bob pwrpas y bydd staff yn dlotach.

“I lawer o weithwyr y GIG mae’r rhan fwyaf o’r cynnydd o 3% eisoes wedi’i ganslo gan y cynnydd hwn mewn cyfraniadau pensiwn y GIG y mis hwn,” meddai.

“Bydd y lefi iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn dileu bron i hanner y cynnydd y flwyddyn nesaf.

“A hynny hyd yn oed cyn i chi ystyried yr argyfwng costau byw, ac erydiad cyflogau dros yr un mlynedd ar ddeg diwethaf, ac mae’r Corff Adolygu Cyflogau yn cydnabod hynny.”

‘Siomi, tanbrisio ac anwybyddu’

Dywedodd Mr Price fod ymchwil wedi dangos bod traean o nyrsys y Gwasanaeth iechyd yn ystyried gadael gyda mwyafrif yn crybwyll cyflog fel rheswm.

“Gyda 1,600 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru, rhaid i’r llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i argyhoeddi’r rhai sy’n parhau y dylent aros – nid dyfarniad cyflog is na chwyddiant yw’r ffordd i wneud hyn,” meddai mr Price.

“Allwch chi eu beio [am eisiau gadael] pan fo staff y GIG yn teimlo eu bod wedi’u siomi, eu tanbrisio a’u hanwybyddu?”

Wrth gyflwyno ei achos, cafodd Mr Price ei heclo gan feinciau cefn Llafur – sefyllfa a ddisgrifiodd arweinydd y Blaid fel un “anhygoel”.

Diffyg cyllid

Bu i Mark Drakeord gydnabod pwyntiau Adam Price ond gan ddweud nad oes modd i Lywodraeth Cymru gynnig codiad uwch oherwydd diffyg cyllid.

“Er mwyn ariannu’r cynnydd hwnnw o 3 y cant mewn cyflogau, mae gennym gynnydd o 1 y cant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Felly, mae’r 2% y cant arall yr ydym yn gorfod dod o hyd iddynt o’r adnoddau sydd ar gael i ni at ddibenion heblaw tâl.

“Mae pob 1 y cant y mae’r bil cyflogau yn y GIG yn codi yn costio £50 miliwn.

Ychwanegodd Mr Drakeford: “Yr hyn y mae’n rhaid i [Adam price] ei wynebu yw – o ble y daw’r arian hwnnw?”

“Pe bawn yn dilyn ei gyngor [Adam Price], byddai gennym lai o arian i wneud y pethau y byddent yn gofyn inni eu gwneud.

“Dim ond swm penodol o arian sydd ar gael, os bydd mwy ohono’n mynd ar gyflog, mae llai ohono i ddarparu gwasanaeth.”

Fe ddywedodd Mark Drakeford ei fod mewn trafodaethau parhaus gydag undebau gweithwyr iechyd ond mynnodd fod yn rhaid iddynt fod yn barod i gydweithio â’r llywodraeth.