Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw ar Lywodraethau Cymru a Phrydain i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i gael eu blaenoriaethu.

Daw’r alwad ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sy’n digwydd ddydd Sul yma (10 Hydref).

Nod yr ymgyrch sy’n cyd-fynd â’r diwrnod hwnnw eleni yw canolbwyntio ar y materion sy’n achosi anghydraddoldeb iechyd meddwl yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd yn dweud bod mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn anghyfartal.

Fe nodon nhw fod rhwng 75% i 95% o bobol ag anhwylderau meddwl mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn methu â chael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl o gwbl, ac nid yw mynediad mewn gwledydd incwm uchel lawer gwell.

Mae iechyd meddwl ymysg ffermwyr wedi cael mwy o sylw yn ddiweddar, wrth i fudiadau fel y Ffermwyr Ifanc a’r DPJ Foundation ymdrechu i chwalu’r stigma o gwmpas y mater yn y gymdeithas wledig.

“Hanfodol”

Fe wnaeth Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ddweud bod angen gwneud mwy i wasanaethu pobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl.

“Rydym yn ffodus yng Nghymru ac yn ein cymunedau gwledig bod gennym gefnogaeth llawer o elusennau iechyd meddwl fel y DPJ Foundation, a bod ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig yn medru troi atynt am help,” meddai.

“Fodd bynnag, mae llawer o bobl â salwch meddwl yn parhau i beidio derbyn y driniaeth y mae ganddynt hawl iddo, ac y maent yn ei haeddu, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr sy’n parhau i orfod dioddef stigma a gwahaniaethu.

“Yn anffodus, mae’r bwlch rhwng y ‘rhai sydd’ a’r ‘rhai sydd ddim’ yn tyfu’n ehangach ac nid yw pobl â phroblemau iechyd meddwl bob amser yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

“Mae’n hanfodol nad yw hyn yn diflannu oddi ar agenda’r llywodraeth ac anogaf Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu, fel nad yw’n troi’n loteri cod post o ran pwy sy’n derbyn gofal a phwy sydd ddim.”