Mae diffyg gweithwyr sydd â’r sgiliau addas yn achosi problemau mawr i fusnesau Cymru, yn ôl adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi heddiw.

Dywed adroddiad Baromedr Busnes y Brifysgol Agored – sy’n cael ei gyhoeddi ar y cyd â Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) – fod 41% o’r busnesau wedi methu â chyrraedd targedau twf y llynedd oherwydd prinder sgiliau.

Ar hyn o bryd, mae 67% o fusnesau cael trafferthion wrth recriwtio,  a 62% yn dioddef prinder sgiliau yn eu gweithlu presennol. Mae 32% o arweinwyr hefyd o’r farn mai dod o hyd i staff â’r sgiliau iawn fydd un o’r heriau mwyaf dros y pum mlynedd nesaf.

Mae 60% yn datgan pryder fod swyddi gwag heb eu llenwi yn rhoi straen ar y gweithwyr sydd ar ôl, gyda 37% yn dweud iddyn nhw adael swydd yn wag oherwydd nad oedd ymgeisydd addas.

Er hyn, mae 65% o fusnesau yn adrodd eu bod yn gobeithio cynyddu eu gweithlu dros y 12 mis nesaf, ac yn pwysleisio’r angen am brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar arolwg o 225 o uwch-arweinwyr sefydliadau yng Nghymru, fel rhan o arolwg ehangach o 1,500 ledled Prydain.

Brexit

Yn ôl Kitty Ussher, Prif Economegydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr, mae’r pandemig a Brexit wedi gwaethygu’r sefyllfa’n ddifrifol.

“Mae adroddiad Baromedr Busnes y flwyddyn hon yn dangos yr effaith enfawr mae’r pandemig a phenderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ar recriwtio ar bob lefel,” meddai.

“Mae dros chwe sefydliad ym mhob deg bellach yn dweud bod ganddynt brinder sgiliau. Ar yr ochr bositif yr ydym hefyd yn gweld optimistiaeth yng nghylch potensial gweithio o bell i lenwi bylchau sgiliau a gwerthfawrogiad rôl prentisiaethau i hyfforddi gweithwyr y dyfodol.

“Rydym yn gofyn ar i lywodraeth y DU i roi dysgu gydol oes, ail-hyfforddi ac uwchsgilio wrth galon eu Cyllideb arfaethedig fel bod sefydliadau ac unigolion yn gallu manteisio ar gyfleoedd enfawr sydd ar gael wrth i’n heconomi adfer ac ail-strwythuro.”