Mae cabinet Cyngor Sir Powys yn argymell parhau â chynlluniau I droi Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn un cyfrwng Cymraeg – er gwaethaf gwrthwynebiadau a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw.

Yn ôl adroddiad a ddaeth i law golwg360, mae’r ymateb yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi bod yn llethol negyddol.

  • Cafodd deiseb yn erbyn y cynlluniau ei harwyddo gan 1,219, o gymharu â 278 a arwyddodd ddeiseb o blaid.
  • O’r ymatebion eraill, dim ond 4 allan o 256 oedd yn cefnogi’r cynnig.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor mewn cyfarfod dydd Mawrth (12 Hydref).

Yn ystod yr haf, roedd Cyngor Tref Machynlleth Hefyd wedi anfon llythyr at Gyngor Sir Powys yn mynegi eu gwrthwynebiad i benderfyniad cabinet y Cyngor i newid iaith Ysgol Bro Hyddgen.

Yn ôl adroddiad yn y Cambrian News, cafodd y cynlluniau eu gwrthwynebu gan saith cynghorydd, heb neb yn pleidleisio o’u plaid

Yn yr adroddiad, dywed un person sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau: “Mae fy nheulu wedi byw ym Machynlleth ers cenedlaethau ac wedi mynychu Ysgol Bro Hyddgen (Ysgol Bro Dyfi).

“Aeth rhai o’m teulu drwy’r ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r lleill drwy gyfrwng y Saesneg, gallaf eich sicrhau nad oedd y rhai a aeth drwy gyfrwng y Saesneg o unrhyw anfantais o ran dysgu’r Gymraeg.

“Roedd yr athrawon a gyflogwyd yn yr ysgol yn gallu dysgu Cymraeg mor uchel fel nad oedd ots eu bod yn ei dysgu fel ‘ail iaith’”

“Ffeithiau nid ofnau”

Ymhlith cefnogwyr mwyaf brwd y cynllun ar Gyngor Powys mae un o’r aelodau lleol dros ddalgylch yr ysgol, Elwyn Vaughan.

“Pryd bynnag y cynigir unrhyw newidiadau, mae’n anochel bod rhai yn gwrthwynebu newidiadau o’r fath,” meddai, wrth ddadlau pam y dylai’r Cyngor llawn gymeradwyo’r cynllun ddydd Mawrth.

“Mae hynny’n ddealladwy. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ofnau.

“Yr wyf am ei gwneud yn glir, nid rhyw agenda wleidyddol yw hwn gan fod rhai’n ceisio cyfeirio at felly.

“Y gwir amdani yw mai agenda Llywodraeth Lafur Cymru, a gafodd ei gyflwyno gan Weinidog addysg y Democratiaid Rhyddfrydol oedd hyn pan ddechreuodd, gyda Chabinet Cyngor Powys sy’n cael ei redeg gan grwpiau Indi a’r Ceidwadwyr ac nid wyf yn aelod o’r un ohonynt.

“Fodd bynnag, gadewch imi fod yn glir hefyd, rwy’n credu mewn dwyieithrwydd, credaf y dylai ein holl bobol ifanc gael eu trin yn gyfartal, cael yr un cyfleoedd, cael sail gadarn ar gyfer y dyfodol, cael y cyfle i sgwrsio â’u cymdogion, cael y gallu i agor eu llygaid i fyd eang lle mae amrywiaeth ieithoedd a diwylliannau yn norm,  y gallu i barchu a deall amrywiaeth yr hil ddynol.

“Mae dwyieithrwydd yn darparu’r sail i ddysgu ieithoedd eraill a dod yn wirioneddol amlieithog – sy’n ased pwysig ar gyfer y dyfodol.

“Yr hyn a wyddom yw mai’r model addysg arfaethedig fel yr argymhellwyd ar gyfer Hyddgen yw’r fformat gorau ar gyfer sicrhau gwir ddwyieithrwydd, ac mae wedi’i ddogfennu’n dda yn rhyngwladol, mai dysgu ieithoedd o oedran cynnar fel y’i cynigiwyd o’r cyfnod sylfaen, yw’r ffordd orau o ddysgu.

“Dyna pam y mae gan ysgolion statws cyfrwng Cymraeg, fel y’u cynigiwyd, ymhlith y sgiliau dwyieithog gorau yn unman yn Ewrop.

“Nid oes rheswm rhesymegol felly pam na all hyn fod yr un mor llwyddiannus a naturiol ym Machynlleth.”

“Cynhwysiant nid gwaharddiad”

Ychwanega: “Nawr ni ddylid ystyried y mater hwn yn beth Cymraeg v Saesneg, na nhw yn erbyn ni; ac rwy’n gresynu at y rhai sy’n ceisio ei wneud o’r fath.

“Mae’n fater o gynhwysiant nid gwaharddiad; mae’n sicrhau tegwch i’r rhai yn y ffrwd Saesneg sydd bellach yn gorfod bod mewn dosbarthiadau aml-flwyddyn mawr; mae’n ymwneud â chydraddoldeb y ddarpariaeth sgiliau; dylid ei ystyried yn fater o sicrhau’r addysg orau bosibl i’n holl bobol ifanc, er mwyn galluogi cenedlaethau’r dyfodol i ennill y sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif, ar gyfer meithrin gallu ein pobol ifanc, i sicrhau eu potensial mwyaf a sicrhau y gallant chwarae rhan lawn mewn cymdeithas ddwyieithog a byd amlieithog.

“Dyna ddylai fod yn ffocws i ni.”

Arwydd 'Machynlleth' uwchben y dref

Ergyd i gynlluniau i droi ysgol yn ysgol Gymraeg

Cyngor Tref Machynlleth yn gwrthwynebu newid iaith Ysgol Bro Hyddgen – ddwy flynedd ar ôl bod y cyngor cyntaf i gefnogi annibyniaeth i Gymru

Newid Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol Gymraeg: cyfnod gwrthwynebu’n dechrau

Bydd y cyfnod gwrthwynebu’n dod i ben ar Orffennaf 15

Newid Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg gam yn nes

Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol