Mae’r cyngor cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru yn 2019 bellach yn gwrthwynebu cynlluniau i droi ysgol gynradd ac uwchradd eu tref yn ysgol Gymraeg.

Mae Cyngor Tref Machynlleth wedi anfon llythyr at Gyngor Sir Powys yn mynegi eu gwrthwynebiad I benderfyniad cabinet y Cyngor i newid iaith Ysgol Bro Hyddgen.

Daw hyn ar ôl i’r Cyngor Sir ddechrau ar gyfnod gwrthwynebu yn dilyn cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn cynnig newid categori iaith yr ysgol o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg.

Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod, a ddaw i ben ddydd Iau nesaf (Gorffennaf 15), mae unigolion a sefydliadau’n cael cyfle i wrthwynebu’r cynnig.

Yn ôl adroddiad yn y Cambrian News, cafodd y cynlluniau eu gwrthwynebu gan saith cynghorydd, heb neb yn pleidleisio o’u plaid, mewn cyfarfod diweddar o’r Cyngor Tref.

Yn dilyn y cyfarfod, mae’r cyngor wedi anfon llythyr at y Cyngor Sir yn honni iddyn nhw dderbyn mwy o lythyrau nag erioed gan aelodau’r gymuned, a phob un yn gwrthwynebu’r newid.

“Mae’r Cyngor Tref yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg, ond ni ddylai hyn fod ar draul dewis,” meddai’r llythyr.

Newid Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol Gymraeg: cyfnod gwrthwynebu’n dechrau

Bydd y cyfnod gwrthwynebu’n dod i ben ar Orffennaf 15

 

Newid Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg gam yn nes

Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol

 

Annibyniaeth

Cyngor Tref Machynlleth y cyntaf yng Nghymru i gefnogi annibyniaeth

Y Cyngor wedi ei rannu’n ddau, ond y Maer yn gwneud y penderfyniad olaf