Mae asiantaeth ffiniau’r Undeb Ewropeaidd wedi addo camu i’r adwy i helpu Lithwania i ddygymod â’r llif cynyddol o ffoaduriaid yno o Belarws, gwlad sy’n ffinio â hi.

Fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd a Nato, fe fydd Lithwania’n cael mwy o filwyr ac offer gan Frontex, y corff sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith o reoli ffiniau rhwng aelodau’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd y tu allan iddi.

“Ein ffin allanol gyffredin ni yw ffin Lithwania, ac mae Frontex yn sefyll yn barod i helpu lle bo’r angen,” meddai Fabrice Leggeri, cyfarwyddwr Frontex mewn datganiad.

Mae disgwyl i’r swyddogion ychwanegol gyrraedd y wlad fach yn y Baltig ganol yr wythnos nesaf, a bydd hofrennydd patrol yn cael ei anfon yno o wlad Pwyl, ac mae trafodaethau ar y gweill am gael un arall o’r Almaen yn ogystal.

Er bod Lithwania wedi rhoi lloches i ffigurau o wrthblaid Belarus, mae’n cyhuddo’r wlad o anfon mewnfudwyr anghyfreithlon yno o Irac, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Ym mis Mehefin, fe wnaeth chwe gwaith gymaint o bobl groesi’r ffin yn anghyfreithlon o Belarus i Lithwania o gymharu â’r mis cynt, ac mae’r llif wedi parhau i gynyddu dros y dyddiau diwethaf. Mae’r 1,500 sydd wedi croesi yno o Belarus yn y ddau fis ddiwethaf yn 20 gwaith y cyfanswm yn 2020.

Mae tensiynau rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Belarus wedi gwaethygu ers i Belarus ddargyfeirio awyren teithwyr ar 23 Mai i arestio newyddiadurwr gwrthwynebus i’r Llywodraeth.

Dywed yr arlywydd unbenaethol Alexander Lukashenko y bydd ei wlad yn rhoi’r gorau i gydweithio â’r Undeb Ewropeaidd i dalu’r pwyth yn ôl ar y sancsiynau sydd wedi eu rhoi ar ei wlad.

Dywedodd Luukshenko na fydd ei wlad yn cau ei ffiniau “a dod yn wersyll i bobl sy’n dianc o Afghanistan, Iran, Irac, Syria, Libya a Tunisia”.