Mae taleithiau gorllewinol America yn dioddef tywydd eithafol o boeth sy’n achosi tanau gwyllt a phryderon am ddiogelwch.
Cyrhaeddodd tymheredd Death Valley yn anialwch Mojave Californa 54C ddydd Gwener a 53C ddoe. Os caiff y darlleniad hwn ei cadarnhau, nid yw ond ychydig raddau’n is na’r 57C a gofnodwyd yno yn 1913, y tymheredd uchaf erioed i gael ei gofnodi ar y ddaear.
Tua 300 milltir i’r gogledd-orllewin o’r anialwch chwilboeth, roedd tân gwyllt mwyaf y flwyddyn ar hyd y ffin rhwng California a Nevada wedi dyblu yn ei faint i 86 milltir sgwâr rhwng dydd Gwener a ddoe.
Mae’n un o amryw o danau sydd wedi bygwth cartrefi mewn taleithiau gorllewinol yr wythnos yma.
Roedd tân gwyllt yn ne Oregon hefyd wedi dyblu yn ei faint i 120 milltir sgwâr ddoe.
Mae rhybuddion yn California am doriadau i’r cyflenwad trydan hefyd oherwydd y gwres ac oherwydd tân yn bygwth gwifrau trawsgludo o dde Oregon.
Ymysg y lleoedd a gofnododd dymheredd uwch nag erioed ddoe mae Palm Springs, de California, a gyrhaeddodd 49C, a Las Vegas a gyrhaeddodd 47C.