Mae Affrica wedi dioddef ei wythnos waethaf erioed o’r pandemig, gyda De Affrica wedi cael ei daro’n arbennig o ddrwg.

Mae heintiadau newydd o’r coronafeirws wedi codi ar raddfa uwch nag erioed yn y wlad dros y dyddiau diwethaf, wrth i don newydd daro rhannau helaeth o’r cyfandir.

Mae De Affrica wedi ailgyflwyno cyfyngiadau llym, gan gynnwys cau tai bwyta a bariau a chyfyngu ar werthiannau alcohol, ac wedi cychwyn ymgyrch frechu ar raddfa fawr.

Allan o’r 5.8 miliwn o achosion sydd wedi eu cofnodi yn y 54 o wledydd yn Affrica, mae 35% ohonyn nhw yn Ne Affrica, er nad yw’r wlad ond yn cyfrif am 4% o boblogaeth y cyfandir.

Mae nifer y marwolaethau dyddiol yn y wlad wedi mwy na dyblu dros y pythefnos ddiwethaf i fwy na 360 y dydd ar gyfartaledd.

Mae’n rhan o dueddiad ehangach yn y cyfandir, gyda 16 o wledydd gan gynnwys Zimbabwe, Congo, Rwanda, Senegal a Zambia yn ymladd yn erbyn y don newydd o’r haint.

“Mae Affrica wedi dioddef ei wythnos waethaf erioed o’r pandemig,” meddai Dr Matshidisio Moeti, cyfarwyddwr rhanbarthol Affrica Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

“Ond mae’r gwaethaf eto i ddod wrth i’r drydedd ton hon barhau i gyflymu ac ennill tir, ac mae diwedd y cynnydd cyflym hwn yn dal i fod wythnosau i ffwrdd.”

Mae cyfraddau brechu’r cyfandir hefyd yn druenus o isel: dim ond 16 miliwn, neu lai na 2% o’r 1.3 biliwn o boblogaeth Affrica sydd wedi cael eu brechu’n llawn, yn ôl yr WHO. Mae mwy na phedair miliwn o bobl De Affrica, tua 6.5% o’r boblogaeth, wedi cael o leiaf un brechiad.