Mae llysgennad yr Eidal ym Mhrydain yn darogan y bydd yr Eidalwyr yn curo’r Saeson 2-1 yn  Wembley heno.

Byddai canlyniad o’r fath yn golygu bod pêl-droed yn “dod adref” i’r Eidal, meddai Raffaele Trombetta.

“Mae hi bob amser yn bwysig ennill gêm bwysig – ac mae gennym ni rywfaint o brofiad yn hyn o beth,” meddai.

“Er i bêl-droed gael ei ddyfeisio gan y Saeson, mae’n dod adref hefyd os byddwn ni’n ennill, oherwydd, mae gennym bedair Cwpan y Byd a Chwpan Ewrop arall.

“Felly, o’m safbwynt i, hyd yn oed os gwnaethoch chi gychwyn yn Lloegr, efallai fod pêl-droed wedi datblygu’n well mewn gwledydd eraill, gan gynnwys fy ngwlad fy hun.”

Ar yr un pryd, roedd yn cydnabod bod gan Loegr “chwaraewyr cyflym iawn” gan ganmol Raheem Sterling fel y gorau yn y garfan.

“Mae wedi creu argraff trwy’r holl bencampwriaeth, ym mhob gêm mae wedi’i chwarae,” meddai.

Gobaith codi cyfyngiadau teithio

Yn ei gyfweliad ar Times Radio, dywedodd Sr Trombetta hefyd ei fod yn obeithiol y bydd twristiaid o Brydain yn gallu teithio i’r Eidal heb y pum niwrnod o cwarantin cyn diwedd yr haf.

“Byddwn yn dilyn y sefyllfa ym Mhrydain a hefyd yn yr Eidal,” meddai. “Dw i’n gobeitiho y gallwn godi rhai o’r cyfyngiadau hyn yn fuan.

“Mae’r sefyllfa yn yr Eidal yn gwella, ond does dim lle i orffwys ar ein rhwyfau gan fod nifer yr achosion newydd wedi cynyddu ar raddfa o tua 1,300 i 1,400 o achosion newydd dros y dyddiau diwethaf.”

Mae 22 miliwn allan o 55 miliwn o boblogaeth yr Eidal bellach wedi cael dau frechiad.