Bydd coelcerthi’n cael eu tanio ledled Gogledd Iwerddon heno, fel rhan o ddathliadau traddodiadol yr ‘Unfed Noson ar Ddeg’.

Mae disgwyl mwy na 160 o danau i ddathlu dyfodiad y diwrnod pwysicaf yn nhymor gorymdeithio urddau teyrngar y Protestaniaid – sef y 12fed o Orffennaf.

Gan fod yr 11eg ar ddydd Sul eleni, mae nifer o goelcerthi eisoes wedi cael eu tanio neithiwr a nos Wener.

Er bod y mwyafrif o danau’n digwydd heb ddim helyntion, mae rhai yn dal i achosi tensiwn mewn cymunedau, ac weithiau mae awdurdodau’r gorfod ymyrryd ar sail iechyd a diogelwch.

Y coelcerth mwyaf dadleuol eleni yw un yn Tiger’s Bay yng ngogledd Belfast, sydd gerllaw ardal weriniaethol New Lodge. Roedd dwy o weinidogion Stormont, Nicola Mallon o’r SDLP a Deirdre Hargey o Sinn Fein, wedi ceisio’n aflwyddiannus i gael gorchymyn llys i symud y tân. Fe fydd yn cael ei danio’n hwyr heno.

Mae’r heddlu’n apelio ar i bobl ymddwyn yn heddychlon dros y dyddiau nesaf.

“Mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid dros nifer o fisoedd i sicrhau haf heddychlon, a bydd hyn yn parhau dros y dyddiau nesaf,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Alan Todd.

Fe fydd y gorymdeithiau 12fed o Orffennaf yn digwydd mewn 100 o leoedd ledled Gogledd Iwerddon yfory. Cafodd y gorymdeithiau eu canslo y llynedd oherwydd y pandemig, ac mae’r 100 o orymdeithiau llai a mwy lleol yn cymryd lle’r 18 prif ddigwyddiad arferol eleni.

Mae’r gorymdeithiau’n nodi buddugoliaeth y Brenin Protestanaidd William of Orange dros y Brenin Catholig Iago II ym mrwydr Boyne, i’r gogledd o Ddulyn yn 1690. Hon oedd y fuddugoliaeth a wnaeth sicrhau llinach olyniaeth Brotestannaidd coron Lloegr a’r Alban.