Mae mesurau’n debygol o gael eu cyflwyno i’w gwneud yn haws i gaffis a thafarnau osod byrddau y tu allan fel y gall pobl fwyta ac yfed yn yr awyr agored.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi’r mesurau hyn fel rhan o strategaeth newydd i adfywio canol trefi o dan Gronfa Codi’r Gwastad (Levelling Up Fund) Llywodraeth Prydain.

Mae’r Gronfa’n rhan o addewid ganddo yn etholiad cyffredinol 2019 i helpu hybu’r economi mewn rhanbarthau ledled y Deyrnas Unedig.

Rhan o’r weledigaeth ar gyfer canol trefi yw i fwyta ac yfed yn yr awyr agored, a fu’n gyffredin yn ystod y pandemig, ddod yn norm.

Fe fydd trwyddedau palmant yn cael eu hymestyn a’u gwneud yn barhaol, gyda’r nod o’i gwneud yn haws a rhatach i gaffis a thafarnau ddarparu ar gyfer mwy o gwsmeriaid.

Yn ôl llefarydd ar rhan Rhif 10 Downing Street, fe fydd hyn yn rhan o gynllun i greu economi fwy cytbwys gyda swyddi o ansawdd da ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, mwy o gyfleoedd, buddsoddi mewn seilwaith a sgiliau, adfer balchder mewn lle a chryfhau cymunedau.

Mae dirprwy arweinydd Llafur, Angela Rayner, wedi taflu dwr oer ar y cynlluniau:

“Dydi ychydig o gadeiriau y tu allan i gaffis ddim yn mynd i ddatrys yr anghydraddoldeb enbyd sy’n dryllio’n cymunedau o ganlyniad i flaenoriaethau anghywir y Torïiad,” meddai.

“Ar ôl degawd o fethiant ac o dorri addewidion, all neb gredu gair mae’r Prif Weinidog anobeithiol yma’n ei ddweud.”

Ar ôl ymgynghori dros dros yr haf, bwriad y Llywodraeth yw cyhoeddi Papur Gwyn Codi’r Gwastad yn yr hydref.