Mae Cyngor Tref Machynlleth wedi penderfynu eu bod yn cefnogi ymgyrch annibyniaeth i Gymru a Yes Cymru.

Roedd y Cyngor wedi’i rhannu’n ddau mewn cyfarfod ar ddydd Mawrth (Mai 28) ond yn dilyn ail bleidlais daethant i’r canlyniad eu bod eisiau cefnogi’r ymgyrch.

“Rydyn ni’n cefnogi’r syniad ac yn cydnabod bod yr ymgyrch i fod fel petai,” meddai clerc y dref, Jim Griffiths wrth golwg360.

“Roedd y cyngor wedi ei rannu yn ddau, yn fifty fifty, a daeth y penderfyniad lawr i’r Maer Monica Atkins wnaeth ddatgan ei bod hi’n cefnogi annibyniaeth mewn ail bleidlais.

“Mae’n golygu bod y Cyngor wedi dod i’r casgliad ein bod ni eisiau cefnogi ymgyrch annibyniaeth i Gymru a Yes Cymru.”

Cyngor Tref Machynlleth yw’r cyntaf drwy Gymru i leisio eu cefnogaeth i annibyniaeth. Y cyngor oedd y cyntaf hefyd i ddatgan eu cydnabyddiaeth i argyfwng hinsawdd.

Ni does unrhyw ddigwyddiadau wedi’u trefnu eto, yn ôl Jim Griffiths.

Fe enillodd y Brexit Party 35.3% o’r bleidlais Etholiadau Ewrop ym Mhowys, sef rhanbarth Machynlleth. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail ar 23.8% a Phlaid Cymru yn drydydd ar 12.2%.