Mae angen darbwyllo pobol Cymru “i fynd i’r drafferth o ddarllen, o wrando, ac o wylio, newyddion eu gwlad eu hunain”.

Dyna mae Llywydd y Dydd a chyn-olygydd BBC Radio Cymru, Betsan Powys, wedi ei ddweud ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Mai 30).

Mae’n galw’r sefyllfa yn “her fawr”, ac yn awgrymu bod yna le i wella o ran cyflwr newyddiaduraeth yng Nghymru.

Mae hefyd yn awgrymu bod democratiaeth yn elwa wrth i fwy o bobol ddilyn newyddion Cymreig a chwestiynu’r drefn sydd ohoni.

“Byddai dyn yn licio gweld sefyllfa lle mae newyddiaduraeth yng Nghymru ar ei gryfaf,” meddai wrth golwg360. “Hynny yw, bod e’n cyrraedd gymaint o bobol a phosibl.

“Os ydych yn cyrraedd gymaint o bobol ac sy’n bosibl, mae pobol yn gwybod beth sy’n digwydd, ac maen nhw’n gallu dechrau gofyn cwestiynau.

“Ac rydych yn creu rhywbeth naturiol wedyn lle mae yna chwilfrydedd yn caledu ac yn troi’n newyddiaduraeth galed.

“… Os lwyddwch, yn fynna, i feddwl am fyrdd … o dynnu pobol i mewn, mae yna ryw gylch iach yn dechrau wedyn o ofyn cwestiynau. Mae eisiau eu gofyn nhw.”

“Anodd bod yn ifanc”

Yn ystod ei hanerchiad ar Faes yr Eisteddfod cyfeiriodd Betsan Powys at yr heriau mae pobol ifanc yn ei hwynebu yn yr oes sydd ohoni. Wedi’r anerchiad mae’n ymhelaethu ymhellach.

“Ar hyn o bryd, o ddifri, mae’n gyfnod anodd bod yn ifanc,” meddai. “Dw i yn credu bod cyfryngau cymdeithasol yn gyfle bendigedig, ond hefyd yn bwysau aruthrol …

“Felly mae mudiad sy’n rhoi pobol ifanc yn gyntaf wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud yn [rhywbeth] i’w drysori, ac i’w gefnogi.

“Mae yna gyfleoedd positif. Nid jest i gystadlu, ond ymhél gyda phobol ifanc o bob cwr o Gymru a’r byd.”

Seibiant

 hithau wedi dod i ben yn olygydd BBC Radio Cymru, mae’n dweud ei bod yn cymryd seibiant o waith a’i bod “wrth [ei] bodd” â hynny.

Mae’n dal i wrando ar BBC Radio Cymru, meddai, ac mae’n anelu at gerdded llwybr arfordir Cymru yn ei hamser rhydd.

“Dw i o ddifri jest wedi mwynhau dyddiadur gwag,” meddai, “a bod o gwmpas yn stwnan, gweld ffrindiau, gweld teulu.”

Mae bellach wedi ymuno â Bwrdd Datblygu Amgueddfa Cymru ac yn dweud bod hynny’n “ddiléit personol iddi”.