Mae angen mwy o nofelau Cymraeg sy’n trafod “y Gymru aml-ddiwylliannol, urban”, yn ôl nofelydd ifanc o Aberystwyth.
Tom yw nofel gyntaf Cynan Llwyd, y gweithiwr elusennol o Aberystwyth sydd bellach wedi ymgartrefu yn y brifddinas.
Mae’n nofel sydd wedi ei sgrifennu o safbwynt y person cyntaf, sef bachgen “quirky” 15 oed sy’n byw mewn fflat gyda’i fam.
Ond yn union fel y mai clawr concrid-aidd y nofel – a ddyluniwyd gan yr arlunydd Rhys Aneurin – yn dangos tedi yn disgyn trwy’r awyr, felly y mae diniweidrwydd Tom wrth iddo ddechrau ymwneud â gweithgareddau ysgeler er mwyn ceisio dianc rhag tlodi.
Themâu dinesig
Mae themâu’r nofel yn cynnwys bwlio, gwrthdaro, mewnfudwyr a thrais, ac roedd eu cynnwys yn ymgais fwriadol gan yr awdur.
Yn ôl Cynan Llwyd, roedd am geisio adlewyrchu’r gymdeithas y mae ef ei hun yn byw ynddi yn ardal Grangetown, Caerdydd, lle mae achosion o lofruddiaethau a thrywanu yn digwydd yn gyson.
Mae yna angen am fwy o lenyddiaeth o’r fath ymhlith darllenwyr ifanc dinesig, meddai.
“Dw i wedi dod i nabod fy nghymdogion a phobol yr ardal, a gweld bod angen cynrychioli’r Gymru aml-ddiwylliannol, urban yr ydw i’n byw ynddi, a lle mae lot fawr o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddi nawr,” meddai Cynan Llwyd wrth golwg360.
“Dw i’n gweld bod yr elfen yna – y Gymru aml-ddiwylliannol – efallai ddim yn cael ei chynrychioli yn amlwg iawn mewn nofelau, yn enwedig nofelau ar gyfer pobol yn eu harddegau…
“Mae fy ngwraig i’n athrawes lan ym Mhentre’r Eglwys, jyst y tu fas i Bontypridd, ac mae rhai o’i disgyblion hi yn gofyn am gael darllen nofelau dinesig sydd â bach mwy o goncrid yn hytrach na mynyddau neu fforestydd, felly fe es i ati i sgrifennu [nofel o’r fath].”
Dyma Cynan Llwyd yn darllen rhan o Tom…