Mae’r gantores ac awdur Casi Wyn, wedi cael ei phenodi’n Fardd Plant Cymru ar gyfer 2021-2023.

Bydd hi’n olynu’r Prifardd Gruffudd Owen yn y swydd, a gafodd ei sefydlu yn 2000.

Mae Casi yn fwyaf enwog am fod yn gantores a chyfansoddwraig pop, ond mae hi wedi actio, ysgrifennu, sgriptio, a chynhyrchu ffilmiau yn ystod ei gyrfa.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd hi’n tanio dychymyg ac ysbrydoli plant ledled Cymru drwy farddoniaeth sy’n gyffrous ac amserol.

Fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru hefyd heddiw mai Connor Allen yw’r Children’s Laureate Wales newydd – y rôl gyferbyniol ar gyfer barddoniaeth Saesneg.

Bardd Plant Cymru 2021-23

Mae Casi, sy’n wreiddiol o Bentir ger Bangor, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan, a bu’n gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau yn ei hieuenctid.

Rhyddhaodd hi ei EP cyntaf, 1, yn 2013 ar label I Ka Ching, ac ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth, gan lwyddo yng Nghymru a thu hwnt, gyda chaneuon fel ‘Lion’ ac ‘Aderyn’.

Yn 2019, fe gydsefydlodd hi’r cylchgrawn Codi Pais, sy’n cael ei gydlynu gan ferched o Gymru, gan annog lleisiau newydd ac amrywiol.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe ryddhaodd hi lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw.

Fe gafodd Dawns y Ceirw ei rhyddhau fel ffilm animeiddiedig hefyd, a’i dangos ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.

“Mi gaiff y plant fy arwain i yn hynny o beth”

Yn ei rôl newydd, bydd Casi yn ymweld ag ysgolion, cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn cyfansoddi cerddi amrywiol i nodi digwyddiadau ac ymgyrchoedd sydd o ddiddordeb i blant a phobol ifanc.

“Does dim grym tebyg i lenyddiaeth a cherddoriaeth, dyma sy’n ein uno ni fel dynoliaeth,” meddai Casi Wyn.

“Mae rôl Bardd Plant Cymru yn un mor eang a dwi’n edrych ’mlaen i gyfarfod amrywiaeth o blant a phobl ifanc hyd a lled y wlad.

“Mae’r byd yn newid ar gyfradd na welson ni erioed mo’i debyg – bod yn agored i syniadau a ffyrdd newydd o brosesu profiadau ydi’r nod.

“Mi gaiff y plant fy arwain i yn hynny o beth. Rwy’n barod iawn i ddechrau arni!”

Llongyfarchiadau

Fe wnaeth sawl un a fydd yn gweithio gyda Casi dros y ddwy flynedd nesaf ei llongyfarch ar ei phenodiad.

“Mae’r Urdd yn edrych ymlaen i gydweithio gyda Casi yn ystod cyfnod cyffrous ein canmlwyddiant,” meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Sian Lewis.

“Mae Bardd Plant Cymru wedi ysbrydoli plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru ers blynyddoedd, a nifer o’r plant hynny wedi mynd ymlaen i ennill prif wobrau Eisteddfod yr Urdd.”

“Dwi wrth fy modd mai Casi Wyn fydd Bardd Plant nesaf Cymru ac y bydd yn gallu cyfuno ei dawn eiriol a cherddorol er mwyn ysbrydoli creadigrwydd mewn plant ar draws y wlad,” ategodd Comisiynydd Plant a Dysgwyr S4C, Sioned Geraint.

“Mae o’n waith sydd mor bwysig a dwi’n dymuno pob lwc iddi.”

“Llongyfarchiadau mawr i Casi ar ei apwyntiad yn Fardd Plant Cymru am y ddwy flynedd nesaf,” meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

“Gyda’n gilydd gallwn weithio tuag at ein nôd o Filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan gynyddu defnydd iaith anffurfiol ein plant a pobl ifanc.”