Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wedi anfon llythyr i HSBC yn beirniadu penderfyniad y banc i gyflwyno costau ar gyfrifon elusennol a chymunedol.
O fis Tachwedd ymlaen, bydd dim modd cael cyfrifon cymunedol, a bydd rhaid i elusennau sydd â chyfrif dalu cost o £60 y flwyddyn.
Danfonwyd copi o’r llythyr hefyd at bob aelod o Senedd Cymru yn ogystal ag Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli Cymru yn San Steffan.
Yn ôl y Gymdeithas, maen nhw’n cynrychioli dros 120 o eisteddfodau bach blynyddol ar hyd a lled Cymru, gyda chanran uchel ohonyn nhw’n bancio’n lleol gyda HSBC.
Dywedodd Megan Jones Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: “Bydd hyn yn effeithio ar sawl mudiad fel eisteddfodau, capeli a phapurau bro. Mae wedi bod yn 18 mis anodd iawn i’r mudiadau a bydd hi’n golled os bydd rhaid i ni dalu rhagor o dreuliau am wasanaeth maen nhw (HSBC) yn dweud sy’n gymunedol.”
Ansensitif
Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru’n ymuno â nifer o fudiadau a chymdeithasau eraill yng Nghymru sy’n pryderu gall y costau yma fod yn hoelen olaf yn yr arch i nifer o bwyllgorau lleol sy’n ceisio’i gorau glas i ail gynnau’r fflam ddiwylliannol yn dilyn heriau Covid.
Mewn blwyddyn arferol byddai o gwmpas 120 o eisteddfodau’n denu’n agos at 12,000 o gefnogwyr, dros 5,000 o gystadlaethau a 2/3 o’r rheiny o dan 18 oed.
Bu’n rhaid i 65% o bwyllgorau eisteddfodau lleol ohirio neu ganslo eu cynlluniau’n gyfan gwbl yn ystod 2020 a 2021.
Maen nhw’n nodi yn eu llythyr bod llawer o eisteddfodau wedi eu “heffeithio’n ddirfawr,” ac er nad “bai” HSBC yw hynny, maen nhw’n galw’r penderfyniad yn “amserol ansensitif, yn anghyfrifol yn ddiwylliannol, ac yn debygol iawn o beryglu dyfodol nifer o’n digwyddiadau cynhenid.”
Mae sawl mudiad a chymdeithas yng Nghymru wedi beirniadu’r newidiadau hyn, yn cynnwys papurau bro, sydd wedi galw’r cyhoeddiad yn “newyddion drwg” ac yn “siomedig”.
Peryglu
Mynegodd Megan Jones Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, ei siom am lawer o weithredoedd diweddar HSBC, gan honni eu bod nhw ar y cyfan yn peryglu cymdeithasau ar lawr gwlad.
“Rydych yn gorfodi bancio ar-lein wrth gynnig gwasanaethau rhad ac am ddim, ond heb gynnig opsiwn i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai yn y llythyr.
“Yn fwy na hynny mae defnydd o lyfr siec ac arian parod yn parhau i fod yn greiddiol i gynnal nifer o ddigwyddiadau’n lleol oherwydd yn aml yng nghefn gwlad mae cysylltiad â’r rhyngrwyd yn wael a sgiliau digidol hyd at 30% o’r boblogaeth yn ansicr, yn enwedig ymhlith cynulleidfa hŷn.
Anghyfleustra
“Rydych eisoes wedi cau nifer arwyddocaol o ganghennau ar hyd a lled Cymru, ac er ein bod yn cymeradwyo eich cyhoeddiad diweddar i gynyddu proffil yr iaith Gymraeg yn y rhai sy’n weddill, mae’r sefyllfa’n pryderu ein haelodau sydd bellach yn gorfod teithio milltiroedd lawer i godi a thalu arian i mewn.
“Heblaw am yr anghyfleustra amlwg i drysoryddion, rydym yn poeni hefyd nad yw hyn yn amgylcheddol gyfeillgar ychwaith, yn enwedig i aelodau sy’n byw yng nghefn gwlad.
“Gwerthfawrogwn taw banc masnachol yw HSBC, ond teimlwn fod eich gweithredoedd yn amserol ansensitif, yn anghyfrifol yn ddiwylliannol, ac yn debygol iawn o beryglu dyfodol nifer o’n digwyddiadau cynhenid.
“Gan arall eirio eich neges gorfforaethol, “gyda’n gilydd fe allwn ffynnu”, erfyniwn yn daer arnoch i ail-ystyried eich polisi yn llwyr, ymateb yn ddiffuant i bryderon eich cwsmeriaid a chynnig llygedyn o obaith i gymunedau ar lawr gwlad.”