Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi anfon ei “ddymuniadau gorau” i Ŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris.

Daw hyn wrth iddi ddychwelyd i Gaerdydd yr wythnos hon, gan agor ddydd Mawrth (5 Hydref) a gorffen ddydd Sul (10 Hydref).

Mae’r ŵyl yn ddathliad chwe diwrnod o ffilmiau LHDT+ a gynhelir yn flynyddol yng Nghaerdydd ers 2007.

Mae £30,000 ar gael i’r enillydd wneud ffilm newydd ar thema LHDT+ yn y Deyrnas Unedig.

Yn 2020, am y 5ed tro, cafodd yr ŵyl ei chydnabod fel un o’r “50 gŵyl ffilm orau werth y ffi mynediad” gan gylchgrawn MovieMaker.

Balchder

Mae tocynnau ar gael yn irisprize.org/boxoffice neu yn Swyddfa Docynnau’r Ŵyl yn Sinemâu Premiere 30 munud cyn pob dangosiad a Chlwb yr Ŵyl, Arcêd y Frenhines, rhwng 10yb a 5.30yh.

Cafodd gŵyl 2020 ei chynnal ar-lein oherwydd pandemig y coronafeirws, ac mae’r trefnwyr wedi sicrhau bod yr ŵyl ar gael ar-lein i gynulleidfa ledled y Deyrnas Unedig eleni hefyd.

Maent yn dweud eu bod gobeithio denu’r 84,000 o gynulleidfa a wnaeth fynychu ar-lein y llynedd.

“Rwy’n anfon fy nymuniadau gorau i Ŵyl Ffilm Gwobr Iris gan ei bod yn dod â’r gorau o ffilmiau LHDTQ+ rhyngwladol i Gymru unwaith eto,” meddai Mark Drakeford.

“Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, y cryfder y mae’n ei rhoi i ni, a’r balchder sydd gennym yn ein cymunedau LHDTQ+ yma yng Nghymru.

Pwysig

“Mae Iris yn caniatáu i wneuthurwyr ffilm adrodd straeon pwysig, na chlywir yn aml trwy gyfryngau eraill.

“I rai pobl bydd yn golygu eu bod yn cael eu cynrychioli am y tro cyntaf.

“Yn 15fed flwyddyn Gŵyl Ffilm Gwobr Iris, rwyf hefyd am ddiolch i Iris a’i ffrindiau am eu gwaith allgymorth ac addysg gydag ysgolion.

“Bydd ein cwricwlwm newydd yn sicrhau bod straeon amrywiol, a blaenoriaeth ar les, wrth galon addysg yng Nghymru.

“Rwy’n siŵr y bydd yr Ŵyl yn llwyddiant ysgubol.”

Momentwm

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Roeddem am barhau gyda’r egni a’r momentwm a chwistrellwyd gennym i’r ŵyl y llynedd.

“I ryw raddau mae’r ŵyl eleni yn ddwy ŵyl, profiad wyneb-yn-wyneb yng Nghaerdydd a phrofiad ar-lein hygyrch i’r Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni wedi cyflwyno polisi ‘talu beth allwch chi dalu’ ar gyfer yr holl ffilmiau byrion ar-lein, gan ganiatáu i ni leihau rhwystrau i fynediad.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar am y nifer cynyddol o bobol sy’n cyfrannu arian ar-lein i ganiatáu i hyn ddigwydd.”