Mae’r heddlu wedi dweud wrth yrwyr osgoi ffordd y B4501 ger y Bala oherwydd gwrthdrawiad.

Roedd yn rhaid cau’r ffordd rhwng yr A5 a’r A4212 fore heddiw (4 Hydref) ar ôl damwain ffordd, ac mae hi’n parhau i fod ar gau ers cwpl o oriau.

Does dim gwybodaeth eto a oes unrhyw anafiadau o’r digwyddiad.

Ffordd arall

Fe gadarnhaodd yr heddlu’r newyddion mewn post ar Facebook.

“[Mae’r] B4501 rhwng yr A5 a’r A4212 Bala ar gau am gwpl o oriau yn dilyn damwain,” meddai’r datganiad.

“Bydd rhaid teithio ar hyd ffordd amgen.”