Bydd yna fylchau ar silffoedd archfarchnadoedd dros y Nadolig yn ôl arbenigwyr y diwiydiannau bwyd.
Daw hyn wrth i Ganghellor Trysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, ddweud na all “chwifio hudlath” er mwyn datrys problemau gyda’r gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Mr Sunak y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i “leihau” problemau gyda chyflenwadau.
Mae nifer o ddiwydiannau yn wynebu prinder staff, gan gynnwys y diwydiant prosesu cig, sydd wedi arwain at rybuddion na fydd cynnyrch megis moch bach ar gael dros y Nadolig.
“Rydyn ni’n gweld bod cyflenwadau wedi cael eu hamharu, nid dim ond yma ond mewn nifer o lefydd gwahanol, ac mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i drio lleihau hynny, ac rydyn ni yn [eu gwneud nhw],” meddai Rishi Sunak wrth raglen Today.
Hudlath
“Ond allwn ni ddim chwifio hudlath. Does yna ddim byd allai wneud am y penderfyniad gan wlad yn Asia i gau porthladd oherwydd clwstwr o achosion coronafeirws.
“Ond gallwch fod yn sicr ein bod ni’n gwneud popeth sydd o fewn ein rheolaeth i drio lleihau rhai o’r heriau hyn.
“Mae’n rhesymol bod pobol yn disgwyl i ni wneud beth allwn ni.
“Ond ni allwn ni chwifio hudlath a gwneud i heriau byd-eang gyda’r gadwyn gyflenwi ddiflannu dros nos.
“O ran cigyddion, dw i’n deall eu bod nhw ar y rhestr o swyddi lle mae prinder gweithwyr yn barod.”
Mae ffermwyr moch wedi bod yn ymgyrchu tu allan i gynhadledd y Ceidwadwyr heddiw (4 Hydref), wrth i arweinwyr alw am visa adfer Covid i ganiatáu i gwmnïau allu cyflogi staff o du allan i’r Deyrnas Unedig.
Digalonni
Dywedodd llywydd NFU, Minette Batters eu bod nhw’n “ymgyrchu tu allan ac maen nhw’n flin, mewn trallod ac wedi digalonni’n ofnadwy”.
“Maen nhw wedi bod yn galw am hyn, rydyn ni wedi bod yn galw ar gynllun brys, cynllun adfer Covid, er mwyn osgoi’r union sefyllfa hon.”
Yn y cyfamser, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Proses Cig Prydain ei fod wedi “syfrdanu” ei bod hi’n ymddangos nad oedd Boris Johnson yn ymwybodol am broblemau ffermwyr moch ddoe ar raglen Andrew Marr.
Dywedodd Nick Allen wrth Sky News ei bod hi’n debyg y bydd twrcis Nadolig yn dod o Ewrop, yn sgil prinder staff yn y Deyrnas Unedig wedi Brexit, gan ychwanegu y gallai yna fod yn brinder rhai bwydydd, fel moch bach.
Mewnforio
“Dydyn ni ddim yn gwneud na fydd yna fwyd ar y bwrdd ddiwrnod Nadolig, ond rydyn ni’n cael trafferth rhoi bwyd parti at ei gilydd – y moch bach, gamwn mewn rhwydi,” meddai.
“Ond dw i’n amau y gallwn ni fewnforio’r bwyd ac mae’n debyg na fydd y twrcis yn rhai Prydain ond y gallen nhw fod yn rhai o Ffrainc, neu dwrcis o lefydd pellach.
“Dydyn ni ddim yn dweud y bydd prinderau bwyd ofnadwy, ond fydd yna ddim dewis o fwydydd Prydain ar gael, mae hynny’n sicr.”
Dywedodd cadeirydd archfarchnad Morrisons bod y pryderon wedi cael eu “gor-ddweud ychydig”.
“Mae yna broblemau logistaidd ar y funud ac mae y rheiny wedi cael cyhoeddusrwydd ac wedi cael eu gor-ddweud ychydig,” meddai Andy Higginson.
“Mae cadwyni cyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn effeithlon iawn a dw i’n siŵr y byddwn ni’n gallu cyflenwi Nadolig gwych i’n cwsmeriaid wrth i ni fynd ymlaen.”
Mewnfudo
Mae Boris Johnson wedi gwrthod dweud na fydd prinderau yn yr economi yn ehangach wrth i’r Nadolig agosáu.
Yn ôl y Prif Weinidog, mae’r Deyrnas Unedig yn mynd drwy “gyfnod o addasu” wedi Brexit, sy’n golygu nad yw gweithwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn gallu gwneud y gwaith.
Mynnodd nad yw’n barod i ddatrys y broblem drwy “godi’r lifer, sef mewnfudo heb reolaeth” er mwyn gadael mwy o weithwyr o dramor i’r Deyrnas Unedig.
Dywedodd y dylai cwmnïau sicrhau bod eu gweithwyr yn cael “cyflog call” os ydyn nhw eisiau cael mwy o staff.
Yn y cyfamser, mae tua 200 o aelodau’r fyddin – eu hanner nhw’n yrwyr – wedi’u symud i helpu i ddanfon tanwydd i orsafoedd.
Does gan tua 22% o orsafoedd petrol yn Llundain a de ddwyrain Lloegr ddim tanwydd, yn ôl cyfarwyddwr gweithredol Cymdeithas Manwerthwyr Petrol, Gordon Balmer.
Er bod gweinidogion yn mynnu bod y sefyllfa mewn gorsafoedd tanwydd yn gwella, fe wnaeth Ymgyrch Escalin ddechrau heddiw (4 Hydref).
Drwy’r ymgyrch, mae aelodau o’r lluoedd arfog wedi cyrraedd depo olew Buncefield yn Hemel Hampstead i helpu i ddanfon tanwydd, ac mae milwyr wedi cael eu gweld yn cerdded ger giatiau Terfynell Storio Olew Hertfordshire.