Mae rhybudd tywydd wedi ei gyhoeddi wrth i law trwm a gwyntoedd cryfion daro Cymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am law, gan rybuddio y gallai hyd at 50mm ddisgyn ac arwain at lifogydd mewn eiddo ac amharu ar deithio.

Daw’r rhybudd tywydd, sy’n cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, a De Cymru i rym am 5yh heddiw (dydd Llun, 4 Medi) ac mae’n parhau mewn grym tan 4yb ddydd Mawrth (5 Medi).

“Bydd yno law trwm, ynghyd â gwyntoedd cryfion, yn symud tua’r dwyrain ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr i ganolbarth a de Lloegr heno,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

“Gallai 20-30mm o law ddisgyn mewn ychydig oriau gyda chymaint â 40-50mm mewn ambell ardal yn ne-orllewin Lloegr, De Cymru ac ardaloedd yn ogledd-orllewin Cymru.”

Rhybuddiodd yr asiantaeth y gallai’r rhai cartrefi a busnesau gael eu heffeithio gan lifogydd.

Ar ben hynny, mae’n debygol y bydd gwasanaethau bysiau a threnau yn cael eu heffeithio, gydag amseroedd teithio yn cymryd mwy o amser.

Bydd llifogydd ar ffyrdd yn achosi amseroedd teithio hirach i fodurwyr hefyd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y dylai amodau sefydlogi rhywfaint ar ôl y cyfnod mae’r rhybudd mewn grym, er y gallai glaw trwm a gwyntoedd cryfion barhau.