Mae English Heritage wedi cael eu beirniadu am bostio llun o Abaty Tyndyrn – heb gyfeirio ei fod yng Nghymru

Cafodd llun o’r abaty yn Sir Fynwy ei bostio ar gyfrifon cymdeithasol yr elusen sy’n rheoli nifer o adeiladau, lleoliadau a henebion Lloegr.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd English Heritage bod y llun wedi’i dynnu’n edrych i’r gorllewin o Glawdd Offa tuag at Abaty Tyndyrn a glannau afon Gwy.

Wrth ymateb, dywedodd dilynwyr mai Cymru sydd i’r ‘gorllewin o Glawdd Offa’, a bod Abaty Tyndyrn dan ofal Cadw.

“Cymru sydd i’r gorllewin o Glawdd Offa,” meddai un Alyn Davies ar Twitter, gan ychwanegu “na allai ddweud fy mod i’n disgwyl gwell gan “Dreftadaeth i’r dwyrain o Glawdd Offa’.”

Dywedodd Jac Jones: “Dw i’n meddwl y gwnewch chi sylwi mai treftadaeth Gymreig yw hwn. Ond diolch am gydnabod harddwch Cymru.”

“Mae’n ymddangos bod blys Saesneg tuag at wledydd eraill a’u treftadaeth yn parhau’n fyw wrth iddyn nhw geisio meddiannu safleoedd Treftadaeth Gymreig,” meddai Gareth Parry.

Adfail

Cafodd yr abaty ei sefydlu yn 1131 gan fynaich Sistersaidd ym mhentref Tyndyrn ar lan afon Gwy, sy’n ffurfio’r ffin rhwng Swydd Gaerloyw a Chymru.

Hon oedd yr ail sefydliad Sistersaidd yng ngwledydd Prydain a’r cyntaf yng Nghymru.

Cafodd yr abaty ei chau yn 1536 yn ystod Diwygiad Harri’r VIII pan gaewyd y mynachlogydd, a throdd yn adfail.

Bu felly nes y 18fed ganrif, ddatblygodd y diddordeb mewn rhamantiaeth a daeth yn lleoliad poblogaidd gyda thwristiaid.

Mae’r adfeilion wedi ysbrydoli nifer o weithiau creadigol gan gynnwys cerddi Tintern Abbey gan William Wordsworth, a nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner.