Mae trafodaethau ar y gweill i ddiogelu cyflenwad carbon deuocsid i sectorau allweddol, wedi i ddwy ffatri gyhoeddi eu bod nhw wedi stopio cynhyrchu carbon deuocsid ac amonia.
Mae’r diwydiant amaeth yn wynebu “diwrnod tywyll iawn” yn sgil y prinder, a bydd prinder carbon deuocsid, yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni, yn effeithio ar ffermydd moch dros y Deyrnas Unedig, meddai un cwmni.
Caiff carbon deuocsid ei ddefnyddio’n eang yn y diwydiant bwyd a diod, gan gynnwys gwneud anifeiliaid yn anymwybodol cyn eu difa ac wrth becynnu bwyd er mwyn ymestyn ei oes.
Wrth drafod y ffaith bod y ddwy ffatri yn Teesside a Sir Gaer wedi stopio cynhyrchu carbon deuocsid ac amonia, dywedodd Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes y Deyrnas Unedig, wrth Aelodau Seneddol: “Mae’n benderfyniad sydd yn bendant wedi effeithio ar ein cyflenwad domestig o garbon deuocsid yn y tymor byr, ac – fel mae pawb yn gwybod – yn cael ei ddefnyddio yn y sector bwyd a diod yn ogystal â niwclear ac iechyd.”
“Am gael effaith”
Yn ôl amcangyfrifon y diwydiant amaeth, mae tua 100,000 mochyn dal ar ffermydd dros y Deyrnas Unedig a fyddai wedi cael eu hanfon i’r lladd-dy fel arall, gyda’r ôl-groniad yn dechrau wythnosau’n ôl yn sgil prinder staff.
Dywedodd Corrina Taylor o gwmni Hideaway Farm Meats, sy’n cynhyrchu porc, selsig, cig moch, a byrgers ger Arberth, Sir Benfro y bydd prinder carbon deuocsid yn effeithio ar eu busnes nhw, a ffermydd moch ar hyd a lled y wlad.
Mae carbon deuocsid yn cael ei ddefnyddio mewn lladd-dai i wneud moch yn anymwybodol cyn iddyn nhw gael eu lladd.
“O’r ongl yna, bydd o’n bendant yn effeithio ffermwyr moch,” meddai Corrina Taylor wrth golwg360.
“Defaid ddim gymaint, achos maen nhw’n cael eu taro’n anymwybodol â sioc drydanol.”
Mae defaid a gwartheg yn tueddu i gael eu taro yn anymwybodol â thrydan, tra mai carbon deuocsid sy’n tueddu i gael ei ddefnyddio ar gyfer moch ac ieir.
Doedd Hideaway Farm Meats ddim yn gwybod, ar hyn o bryd, faint o amser fyddai’n ei gymryd i brinder carbon deuocsid effeithio arnyn nhw, ond byddai’n sicr yn cael effaith, meddai.
“Diwrnod tywyll iawn”
Mae’r prinder nwy yn golygu bod amaeth yn y Deyrnas Unedig yn “wynebu diwrnod tywyll iawn”, meddai un rheolwr fferm foch wrth PA.
Dywedodd hefyd bod prinder staff o’r Undeb Ewropeaidd wedi effeithio ar y diwydiant.
“Rydyn ni wedi dibynnu’n ddwys ar weithwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol, maen nhw wedi mynd adre gyda Covid a Brexit ar y gorwel a heb ddod yn ôl,” meddai Kate.
“Rydyn ni’n gofyn i’r Llywodraeth wneud rhywbeth, fel fisa adfer Covid neu roi cigyddion ar y rhestr o swyddi lle mae prinder gweithwyr oherwydd does gennym ni ddim y bobol i lenwi’r bylchau hyn ar y funud.
“Os nad yw lladd-dai’n gallu defnyddio CO2 ar gyfer taro anifeiliaid yn anwybodol fydden nhw ddim yn lladd nifer o foch o gwbl, felly mae hynny eto’n mynd i ychwanegu at yr ôl-groniad ar ffermydd Prydain.
“Rydyn ni’n wynebu diwrnod tywyll iawn ar ffermydd y Deyrnas Unedig oherwydd os ydyn ni’n cyrraedd pwynt lle bod rhaid defnyddio ewthanasia i ladd moch ar fferm yn syml oherwydd ein bod ni methu mynd a nhw i’r lladd-dai, byddai hynny’n drist iawn.”
“Monitro’r sefyllfa”
Mae’r Ysgrifennydd Busnes wedi dweud ei fod e wedi cynnal trafodaethau gyda phrif weithredwr byd-eang CF Industries i drafod y pwysau ar fusnesau.
“Rydyn ni wedi archwilio, yn eithaf manwl, ffyrdd posib i sicrhau cyflenwadau angenrheidiol,” meddai Kwasi Kwarteng.
“Mae gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyd adrannau San Steffan, ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod cynlluniau brys gan y sectorau hynny sy’n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn i wneud yn siŵr bod ei fod yn amharu cyn lleied â phosib.”
Dywedodd Kwasi Kwarteng bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “monitro’r sefyllfa fesul munud”.