Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r rheoleiddwr ynni, Ofgem, wedi cytuno y dylai’r cap ar bris ynni “aros yn ei le”.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, gynnal cyfarfod argyfwng gyda’r diwydiant cyn cyhoeddi i Dŷ’r Cyffredin na fyddai gweinidogion yn helpu cwmnïau ynni ac y byddai’r cap ar bris ynni yn “aros”.
Mewn datganiad ar y cyd yn hwyr neithiwr (20 Medi), cadarnhaodd Kwasi Kwarteng a phrif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley, eu bod nhw wedi cytuno i gadw’r cap ar brisiau.
“Mae ein cytundeb yn glir y dylai’r cap ar bris ynni aros yn ei le yn ganolog i unrhyw gamau nesaf,” medden nhw.
Yn gynharach, roedd Kwasi Kwarteng wedi dweud wrth Aelodau Seneddol bod y cap yn arbed hyd at £100 y flwyddyn i 15 miliwn o gartrefi, a’i “fod ddim yn mynd i unman”.
Daw hyn wedi i’r Daily Telegraph adrodd bod rhai cwmnïau oedd yn rhan o’r cyfarfod wedi galw am gael gwared ar y cap yn sgil ofnau y gallai mwy o gwmnïau fynd i’r wal.
Yn ôl rhai dadansoddwyr, gallai nifer cwmnïau ynni’r Deyrnas Unedig ostwng yn sylweddol dros y misoedd nesaf, gan adael cyn lleied â deg cwmni petai’r argyfwng nwy yn parhau.
Prisiau’n codi
Ers mis Ionawr, mae prisiau nwy sy’n cael ei werthu trwy gyfanwerthu wedi codi 250%, gyda chynnydd o 70% ym mis Awst, gan arwain at rai cwmnïau ynni llai yn mynd i’r wal.
Does dim arwyddion bod y cynnydd mewn pris yn arafu, ac wrth siarad â Thŷ’r Cyffredin dywedodd Kwasi Kwarteng bod angen derbyn y gallai prisiau nwy “fod yn uchel am hirach na mae pobol wedi’i ddisgwyl”.
Ychwanegodd nad oes dim cwestiwn ynghylch goleuadau’n diffodd, a phobol yn methu â chynhesu eu tai.
Mae nifer o ffactorau wedi’u beio am y cynnydd mewn prisiau nwy, gan gynnwys gaeaf oer wnaeth leihau stoc, galw uchel am nwy naturiol hylifol o Asia, a lleihau mewn cyflenwad o Rwsia.
Ar ben hynny, cafodd gwifrau sy’n cario trydan o Ffrainc ei difrodi mewn tân yn ddiweddar, a dydi mis Medi heb fod yn fis gwyntog iawn, felly mae angen mwy o nwy i greu trydan.