Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymddiheuro ar ôl i gyfeiriadau e-byst cyfieithwyr Affganaidd gael eu datgelu drwy ddamwain.

Yn ôl y BBC, cafodd cyfeiriadau e-byst dros 250 o bobol sydd eisiau cael eu hadleoli yn y Deyrnas Unedig eu copïo, ar gamgymeriad, i e-bost gan y weinyddiaeth yn gofyn am ddiweddariad ar eu statws.

Roedd rhai o’r cyfrifon yn cynnwys lluniau hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Mae ymchwiliad wedi’i lansio i dor diogelwch data gan y tîm Polisi Cynorthwyo Adleoli Affganiaid. Rydyn ni’n ymddiheuro i bawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad hwn ac rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau na fydd yn digwydd eto.

“Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cymryd eu cyfrifoldebau i ymdrin â gwybodaeth a data o ddifrif.”

Mae’n debyg bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cysylltu â’r bobol sydd wedi’u heffeithio, ac yn cynnig cyngor ar sut i ymdopi â’r peryglon posib y gallen nhw fod yn eu hwynebu.

“Bywydau mewn perygl”

Dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn cysgodol y Blaid Lafur, John Healey: “Dywedon ni wrth y cyfieithwyr Affganaidd hyn y byddem ni’n eu cadw nhw’n ddiogel, yn hytrach mae’r camgymeriad hwn wedi rhoi eu bywydau mewn perygl heb fod angen.

“Y flaenoriaeth nawr yw cynyddu’r ymdrechion ar frys er mwyn dod â’r Affganiaid i’r Deyrnas Unedig yn ddiogel.

“Dyma’r ail dor diogelwch data mawr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn eleni, ar ôl i ddogfennau sensitif gael eu darganfod mewn safle bws yng Nghaint ym mis Mehefin. Yn amlwg, mae angen i’r Ysgrifennydd Amddiffyn gael trefn ar ei swyddfa”.

“Cywilyddus”

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Johnny Mercer wrth PA bod y modd mae cyfieithwyr Affganaidd wedi cael eu trin wedi bod yn “hynod gywilyddus”.

“Ym mis Gorffennaf, fe wnes i, a nifer o rai eraill o fewn [y sector] amddiffyn, ofyn i’r Ysgrifennydd Amddiffyn a’r Ysgrifennydd Cartref i sortio’r rhaglen Arap (Polisi Helpu ac Adleoli Affganiaid),” meddai.

“Fe wnaethon nhw ysgrifennu llythyr anfoesgar yn ôl yn dweud ein bod ni’n ymateb i ‘gamadrodd sylweddol’ a bod ein pryderon ‘yn syml, ddim yn wir’.

“Dywedais wrthyn nhw y bydden nhw’n difaru eu hagwedd blentynnaidd at ymdrech wirioneddol i amddiffyn y rhai wnaeth wasanaethu ar ran ein cenedl er gwaetha’r peryglon.

“Bydd eu balchder yn costio bywydau; bydd y bennod ddiweddaraf hon ond yn cyflymu hynny. Hynod gywilyddus.”