Ar Ddiwrnod Heddwch y Byd, mae Academi Heddwch Cymru wedi cyhoeddi mai cyn Archesgob Cymru a Chaergaint, yr Athro Rowan Williams, yw ei chadeirydd cyntaf.

Daeth yr academi i fodolaeth flwyddyn union yn ôl, gan ddod â chynrychiolwyr o holl brifysgolion Cymru, y Gymdeithas Ddysgedig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ynghyd i hyrwyddo a gweithio dros heddwch.

Bellach mae ganddi gydlynydd, Ameerah Mai, sy’n gweithio o gartref yr Academi yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd.

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Yr Athro Rowan Williams, sy’n wreiddiol o Abertawe, ei bod hi’n “bleser ac anrhydedd” bod y rhan o’r fenter.

“Mae gan Gymru draddodiad hir o weledigaeth ryngwladol ac ymrwymiad i gymod cymdeithasol a chydwladol,” meddai.

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd i fod yn rhan o’r fenter newydd hon, sy’n ceisio rhoi bywyd newydd i’r traddodiad hwn ar adeg pan fo’n byd ni mewn dirfawr angen o fodelau sy’n dangos dulliau creadigol a chydweithredol o greu heddwch a thangnefedd.”

Dywed Dr Mererid Hopwood, Ysgrifennydd yr Academi Heddwch, “fod croesawu Dr Rowan Williams i gadair Academi Heddwch yn benllanw llawen iawn i flwyddyn gyntaf yr Academi”.

“Rydym yn diolch i Dr Aled Eirug a Dr Einir Young am lenwi’r bwlch dros dro, ac yn edrych ymlaen at gael cwmni’r tri wrth i’r Academi ddatblygu ei rhaglen waith,” meddai.

Academi Heddwch Cymru

Amcanion yr Academi Heddwch yw sicrhau bod Cymru’n gwneud cyfraniad i ymchwil ac ymarfer heddwch, gyda’r ymchwil hwnnw o ansawdd sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Maen nhw hefyd am sicrhau bod heddwch i’w weld ar strategaethau a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru, a bod y cyhoedd yn ymddiddori mwy mewn ymchwil ac ymarfer heddwch.

Yn 2014, cefnogodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr egwyddor o sefydlu’r Academi Heddwch, gan gydnabod y gallai “ychwanegu gwerth i waith y Cynulliad ac i gymdeithas ddinesig yn ehangach”.

Yn ddiweddar, mae’r Academi wedi gweithio gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gynnal chwe digwyddiad yn y ‘Tent Tangnefedd’, cynnal seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc a chydlynu prosiect amlweddog sy’n bartneriaeth rhwng Cymru a Gogledd America i ddathlu canrif Apêl Merched Cymru – deiseb yn ‘hawlio heddwch’ ac a gafodd ei llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.

I gyd-fynd â thema Diwrnod Heddwch y Byd 2021 y Cenhedloedd Unedig, sef gwella ac adfer byd teg a chynaliadwy, mae’r Academi Heddwch yn cynnal panel ‘Heddwch a Newid Hinsawdd’ yng nghwmni’r Athro Emeritws Gareth Wyn Jones, Dr Gillian McFadyen a Faith Clark heddiw (dydd Mawrth, Medi 21) am hanner dydd.

Mae croeso i bawb, ac mae modd cofrestru, a chanfod mwy, yma.