Mae’r penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig yn un “cynamserol”, yn ôl Rhun ap Iorwerth.

Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru fod “rhaid i’r cyfrifoldeb fod gyda Llywodraeth Cymru”, wrth i unigolyn anhysbys ddatgelu bod penaethiaid wedi cael eu symud o’u swyddi yn dilyn marwolaeth claf oedd wedi lladd ei hun fis Ebrill eleni.

Bu farw’r claf yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, un o ysbytai’r bwrdd iechyd yn y gogledd.

Mae hynny wedi’i gadarnhau gan Jo Whitehead, prif weithredwr y bwrdd iechyd, a gafodd wybod am y llythyr anhysbys gan Arolygiaeth Iechyd Cymru.

Mewn llythyr ar Fehefin 21, cadarnhaodd hi fod Pennaeth Gweithrediadau’r Gorllewin a Phennaeth Nyrsio’r Gorllewin wedi cael eu symud i swyddi gwahanol, a bod ymchwiliad allanol ar y gweill.

Mae wyth mlynedd bellach ers i bryderon am Uned Hergest ddod i’r amlwg, ac wyth mlynedd ers i Robin Holden gael ei gomisiynu i gynnal ymchwiliad.

Arweiniodd adroddiad damniol am uned iechyd meddwl arall at y bwrdd iechyd yn wynebu mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.

Daeth y mesurau arbennig i ben cyn etholiadau’r Senedd, ond mae Rhun ap Iorwerth yn dweud mai “digon yw digon”.

‘Rhaid mynd i’r afael â’r sgandalau parhaus ar frys’

“Rhaid mynd i’r afael â’r sgandalau parhaus ar frys, ac mae fy nghalon yn mynd allan i’r holl deuluoedd y mae’r trychinebau hyn yn parhau i effeithio arnynt,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Rhaid gofyn cwestiynau sut y llwyddodd Betsi Cadwaladr i ddod allan o fesurau arbennig pan fo problemau difrifol o fewn unedau iechyd meddwl yn amlwg yn parhau.

“Mae aelodau’r staff wedi dweud wrthyf yn y dyddiau diwethaf nad yw problemau tanfuddsoddi a thanariannu wedi cael sylw o hyd. Digon yw digon. Mae trefniadau yr arweinyddiaeth wedi’u hamlygu unwaith eto fel gwendid – gan y staff yr wyf wedi bod yn siarad â hwy, a’r llythyr gan y Prif Weithredwr.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am fynd i’r afael â’r materion hirhoedlog a dwfn hyn. Os na chymerir camau pendant, bydd y penodau trasig hyn yn parhau, gan adael rhestr gynyddol o deuluoedd mewn profedigaeth gyda chwestiynau heb eu hateb.”

“Gall y camau a gymerwyd mewn ymateb i’r drasiedi hon gael eu gweld gan BIPBC fel arwydd o benderfyniad newydd i fynd i’r afael â materion ym maes gofal iechyd meddwl, ond mae’r ffaith ein bod yn sôn am fwrdd enfawr wedi’i  rannu’n Ddwyrain, Canol a Gorllewin yn dangos problem barhaus arall.

“Mae’r materion hynny’n gallu mynd allan o reolaeth mewn gwahanol rannau, yn awgrymu unwaith eto mai bwrdd yw hwn sy’n rhy fawr ac anhylaw, ac efallai mai dechrau o’r newydd yw’r unig ateb.”