Bydd teithwyr tramor sydd wedi’u brechu’n llawn yn gallu ymweld â’r Unol Daleithiau o fis Tachwedd ymlaen.

Bydd y Tŷ Gwyn yn codi’r gwaharddiad cyffredinol ar deithwyr tramor rhag dod i mewn i’r wlad.

Cyflwynwyd y gwaharddiad gan y cyn-arlywydd Donald Trump tua dechrau’r pandemig coronafeirws, ac mae wedi bod ar waith ers 18 mis bellach.

Mae’r cyhoeddiad yn hwb mawr i gwmnïau awyrennau fel British Airways a Virgin Atlantic, yn ogystal â Maes Awyr Heathrow.

Maent wedi beio’r gwaharddiad dro ar ôl tro am rwystro eu hadferiad o’r pandemig.

Mae Heathrow wedi mynd o fod yn faes awyr prysuraf Ewrop yn 2019 i’r 10fed prysuraf – y tu ôl i feysydd awyr fel Amsterdam, Paris Charles de Gaulle, a Frankfurt.

Dywedodd cydlynydd Covid-19 y Tŷ Gwyn yn Washington, Jeff Zients, a gyhoeddodd ddiwedd y gwaharddiad ar deithio, y bydd angen i bob ymwelydd tramor ddangos prawf o frechiad yn ogystal â phrawf negyddol wedi’i gymryd yn y tri diwrnod blaenorol.

Bydd gofyn i gwmnïau awyrennau gasglu gwybodaeth gyswllt gan deithwyr rhyngwladol fel y gellir eu holrhain os oes angen.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, ei fod yn “falch iawn” bod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, yn “ailgychwyn teithio trawsatlantig”.

Ychwanegodd: “Mae’n hwb gwych i fusnes a masnach, ac mae’n wych bod modd ailymweld â theulu a ffrindiau unwaith eto.”

Dywedodd Shai Weiss, prif weithredwr Virgin Atlantic, fod llacio’r cyfyngiadau yn “garreg filltir bwysig i ailagor teithio’n llawn, gan ganiatáu i ddefnyddwyr a busnesau drefnu teithiau i’r Unol Daleithiau â hyder”.

Roedd tua 3.8 miliwn o ddinasyddion Prydain yn ymweld â’r Unol Daleithiau bob blwyddyn cyn y pandemig, yn ôl y Swyddfa Dramor.