Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi cyflwyno cynnig i ddiwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Daw cynnig Rhys ab Owen ar ôl i adroddiad Cymdeithas Alzheimer nodi ym mis Mawrth eleni pam fod angen sicrhau bod gofyn i aseswyr gael hyfforddiant mewn dementia.

Mae’n dadlau pe byddai gofalwyr yn deall y cyflwr yn well a’r effaith mae’n ei chael ar yr unigolyn, gan gynnwys eu gallu i gyfathrebu, y byddai’r gofal yn llawer mwy effeithiol.

Yn ôl Rhys ab Owen, mae’r mater yn un personol iddo fe a’i deulu gan fod ei dad, y cyn-Aelod Cynulliad Owen John Thomas, yn byw â dementia ac yn breswylydd mewn cartref gofal ym Mae Caerdydd.

‘Asesiad mwy eang’

“Dyma un rheswm pam rwy’n defnyddio’r cyfle i wneud gwelliannau drwy fil aelod unigol yn y Senedd,” meddai Rhys ab Owen.

“Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol i asesydd gael hyfforddiant arbenigol mewn dementia, sy’n gallu golygu y gallai pobl â dementia gael asesiad o’u hanghenion gan rywun heb ddealltwriaeth o’u cyflwr.

“Dylai’r asesiad ganolbwyntio ar y person a nodi ei anghenion unigol.

“Ni ddylai fod yn asesiad o anghenion sy’n gysylltiedig â gofal personol yn unig, wedi’i gyfyngu i helpu i olchi, gwisgo, sy’n hanfodol i weithredu bob dydd.

“Dylai fod yn asesiad mwy eang o anghenion am ofal personol, gan gynnwys y cymorth y gallai fod ei angen ar yr unigolyn i’w helpu i fyw bywyd o ansawdd da, un ag ystyr, cysylltiad a phwrpas.

“Os daw fy mil yn gyfraith, byddai’n gwneud hyn yn ofyniad.”